Diolch i Carl am ei amynedd di ddiwedd wrth ddangos i mi, Mal ac Aelwyn sut mae mynd ati i greu blog/gwefan yn defnyddio’r meddalwedd cod-agored WordPress. Dyma ffrwyth ein noson yn Chapter. Y gobaith ydy mudo cynnwys Gwenu Dan Fysiau ar Blogger yma, ond yn y cyfamser, dw i am roi cofnod neu ddau yma.
-
Cofnodion Diweddar
Sylwadau Diweddar
Archif
Categorïau
Croeso! Mwyna WordPress.
Hysbysiad: Blog WordPress newydd @rhysw1 #pethaubychain | Hacio'r Iaith
O na bai gen i’r amynedd i ddeall/newid/beidio dinistrio blog wordpress! Dwi di treulio ORIAU yn ceisio dysgu a dwi’n neud smonach ohoni bob tro. Mae’n edrych yn neis iawn ma, ta beth. Pethau Bychain hapus!
Sara, falle os ofyni di’n neis, fe drefnith Carl weithdy arall yn y dyfodol.
Y busnes FTP ar enw parth sy’n stympio fi, gan mod i’n ddi-brofiad yn hynny hefyd. Dw i wedi trio dilyn cyfarwyddiadau WordPress ar lein yn y gorffenol, sy’n edrych yn frawyychus o gymleth, ond mewn gwirionedd man addasiadau (i un ffeil fechan) sydd angen eu gwneud.