Dolenni

Mae hwn yma dros dro(ish) nes bod fi’n dod o hyd i le gwell i’w gadw.

Yn y dechreuad roedd blogroll, sef rhest o flogiau gwerth eu darllen a oedd i’w weld ar sawl blog cynnar. Yna daeth darllenwyr RSS a dyma drawsnewid y ffordd o ddarllen blogiau. Ro’n i’n defnyddio gwasanaeth Bloglines a dyma’r blogiau o’m rhestr.

Blogiau dwi’n roeddwn i’n ddarllen

 

Blogiau Cymraeg
Blogiau Cymreig
CPD Wrexham
Cyfiawnder ac Amgylcheddol
Eraill
Gaeleg a’r Alban
Gwleidyddion/Gwleidyddiaeth
Gwyddeleg a’r Iwerddon
Mentrau Iaith
Technoleg a Busnes
Wicipedia a Tlysau
Swyddi
digwyddiadau
WhatDoTheyKnow
podlediadau

1 Ymateb i Dolenni

  1. Dywedodd Lowri Williams :

    Annwyl Rhys,

    Rydyn ni’n ysgrifennu atoch chi achos bod ni’n datblygu prosiect newydd pwysig ynglŷn â’r iaith Gymraeg a hoffen ni gael eich help.

    Mae prosiect Corpws Cenedlaethol Cymraeg Cyfoes (CorCenCC) yn brosiect uchelgeisiol a ddechreuodd yn swyddogol ar Fawrth 1af 2016 (gellir dod o hyd i fanylion pellach am hyn yma:: http://sites.cardiff.ac.uk/corcencc/).

    O ystyried bod y Gymraeg yn un o ddwy iaith swyddogol y wlad, mae’n hanfodol cefnogi dyfodol yr iaith fel cyfrwng cyfathrebu a diwylliant bywiog. Fel ieithyddion, rydyn ni eisiau datblygu ‘corpws’ o’r Gymraeg i gydweddu â’r rhai sydd eisoes wedi cael eu creu ar gyfer Saesneg a llawer o ieithoedd eraill o gwmpas y byd. Mae corpws yn gasgliad o ddata iaith lafar, ysgrifenedig ac electronig, sy’n rhoi ‘cliplun’ o’r iaith fel mae’n cael ei defnyddio mewn sefyllfaoedd ‘go iawn’. Mae’r corpora yn Saesneg wedi cael eu defnyddio, er enghraifft, fel sail ar gyfer llawer o eiriaduron mawr ac maen nhw’n cael eu defnyddio’n eang ar gyfer ymchwil i lawer o agweddau ar eirfa, gramadeg a defnydd o’r iaith Saesneg.

    O gael cofnod o’r Gymraeg fel mae hi ‘go iawn’, gall siaradwyr, athrawon a llunwyr polisi ddatblygu dealltwriaeth ddyfnach o ba amrywiadau o’r iaith allai gael eu defnyddio mewn cyd-destunau llafar, dogfennau ysgrifenedig, dosbarthiadau i ddysgwyr a gwerslyfrau ac yn y blaen.

    Bydd llawer o gydrannau gan y corpws rydyn ni’n ei gynllunio, o lenyddiaeth a phapurau newydd, i sgyrsiau, gwefannau a mathau eraill o destunau electronig (e-iaith). Ac rydyn ni’n cysylltu â chi ynglŷn â’r elfen olaf yma.

    Ar gyfer yr elfen yn y corpws sy’n ymwneud â thestunau electronig, rydyn ni’n mynd i gasglu’r testunau sydd i’w cael mewn blogiau, gwefannau, negeseuon testun, ac e-byst Cymraeg, ac rydych chi’n awdur deunydd digidol ar-lein yr hoffen ni eu cynnwys.

    Rydym yn cysylltu i ofyn am eich caniatâd i ddefnyddio cynnwys eich gwefan yn CorCenCC. Hoffem ni i chi gadarnhau a ydych chi’n rhoi caniatâd i ni – neu beidio – i ddefnyddio hyn yn y corpws yma. Os ydych yn fodlon gwneud hynny, a fyddech cystal ag anfon eich cyfeiriad e-bost atom er mwyn i ni allu anfon ffurflen ganiatâd atoch chi os gwelwch yn dda? Bydd manylion llawn ar sut y byddwn yn defnyddio eich cynnwys yn y ffurflen ganiatâd.

    Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os ydych am gael gwybodaeth bellach, cysylltwch â mi ar: WilliamsL10@cardiff.ac.uk.

    Cofion cynnes,

    Lowri Williams
    CorCenCC Research Assistant | Cynorthwwydd Ymchwil CorCenCC
    Cardiff University | Prifysgol Caerdydd

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *