Trafod blogiau pêl-droed ar Ar y Marc (20.7.13)

Yn dilyn rant diweddar ar y blog yma, cefais wahoddiad i ymddangos ar raglen radio Ar y Marc i drafod blogiau pêl-droed dw i’n eu darllen. Mond slot pum munud oedd i fod ar gyfer yr eitem felly dewisiais tri blog (ac un podlediad) oeth yn trafod yr ymadrodd ‘Againts Modern Football’, sef ffenomenon sy’n crisialu ymdeimlad ymysg carfan sylweddol o gefnogwyr nad ydy llawer o newidiadau diweddar ym myd y gamp ddim o anghenrhaid yn rhai llesol, bod rhai yn ddim mwy na ddiangen tra bod eraill yn ddinistiol.

Yn anffodus, ac yn ddiarwybod i mi, doedd ansawdd y llinell ddim yn dda iawn, felly cytogwyd yr eitem cyn i fi hyd yn oed ddechrau trafod y blogiau, ond ro’n i wedi paratoi rhestr o ddoleni o flaen llaw, felly dyma nhw.

Ces yr ysbrydoliaeth i drafod y pwnc wedi i mi ddilyn dolen ar Twitter at This Is Deep Play. Dyma bodledliad newydd pseudo-deallusol sy’n trafod pêl-droed. Thema y rhifyn cyntaf oedd Against Modern Football?

Trafodir tarddiad yr ymadrodd a beth mae’n olygu, h.y. yn erbyn beth o fewn ffurf presenol y gamp fodern mae cymaint yn eu gwrthwynebu? Gofynwyd pa rym sydd gan gefnogwyr i wrthsefyll y newidiadau, sut mae mynd o gwmpas hyn, a pha mor llwyddiannus mae ymgyrchaedd wedi bod.

Y blogiau:

Supportersnotcustomers.com Gwefan a blog gymharol newydd. Ffurfiwyd yn dilyn penderfyniad CPD Dinas Caerdydd i newid ei lliwiau. Nid penderfyniad y clwb yn unig a arweiniodd at y penderfyniad, ond hefyd y modd y derbyniwyd hyn yn llawen gan gymaint o gefnogwyr y clwb. Mae’r awdur wedi penderfynnu profi diwrnod mewn gemau ar sawl lefel ac mewn sawl gwlad, gyda phwyslais ar y Bundesliga, prif adran yr Almaen. Mae ei deithiau dros dymor 2012/13 wedi cynnwys teithaiu i wylio FC United of Manchester, sawl un i’r Almaen ac ambell gem ar sawl lefel yn yr Iseldiroaedd. Mae hefyd wedi creu infographic yn cymharu The Premier League vs. The Bundesliga – The facts

    • £7 yn rhatach i sefyll i wylio Boroussia Dortmund na Exeter City

    • Rhatach hedfan o Fanceinion a gwylio Werder Bremen na gwylio Man U a Man City

    Yn eironig, o ystyried enw’r wefan/blog, mae’r awdur ei hun wedi troi’n fwy o consumer na chefnogwr, gan chwilio am brofiad gwell yn rhywle arall ac hefyd wrth wylio’r ceiniogau – rhywbeth bydddai cefnogwr ‘go iawn’ byth yn meddwl ei wneud. Rhaid i mi gyfaddef mai  dyma sut dw i’n tueddu edrych ar y gamp bellach, ac er mod gennyf ‘fy mhim’ tydy fy nghefnogaeth ddim yn ddiamod bellach.

Dw i wedi dilyn y blog Ffwtbol.com ers cryn amser. Mae’n cael ei gynnal gan Phil Stead, colofnydd gyda’r cylchgrawn Golwg ac awdur Red Dragons: The Story of Welsh Football. Tra’n ymchwilio i’w lyfr, roedd sawl cofnod ddifyr, rhai’n ddoniol, rhai’n ddifrifol. Un o’r rhai tristaf oedd The end of Wales ble mae Phil yn rhagweld tim cenedlaethol Cymru’n dod i ben yn raddol oherwydd cyfuniad o sawl ffactor. Yn ei gofnod Losing my religion mae Phil yn nodi, fel awdur Supporters Not Customers, fel y bu iddo yntau wneud y penderfyniad anodd o droi cefn (os caf ddefnyddio’r ymadrodd yna) ar Ddinas Caerdydd a pham.

Llandudno Jet Set, blog toreithiog a ffraeth gan gefnogwr CPD Dinas Bangor. Mae pynciau’r cofnodion yn amrywio, ond mae ambell un yn olrhain hanes taith diweddaraf i wylio gwahanol glybiau ar sawl lefel ar hyd a lled Ynys Prydain.  Dyma flog arall sy’n adrodd yn ol ar brofiad refreshing o wylio FC United of Manchester, yn ei gofnod Righteous football. Mae’r cofnodion yn cynnwys holl ddefodau od yr awdur wrth iddo fynychu gem ymhell o adre, gyda phob un yn dechrau o orsaf Cyffordd Llandudno. Mae lot o hiwmor yn yr ysgrifennu, ond yn sydyn reit bydd yn cynnwys rhyw arsylwadau craff iawn a gwlediyddol eu naws. Gwyliwch allan am faner y boi ma yng ngemau cartref y tim cenedlaethol.
A oes gyda chi awgrymiadau am flogiau y dylwn eu darllen? Gadewch ddolen yn y blwch sylwadau.

Cafodd y cofnod ei gyhoeddi yn Pêl-droed. Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *