Blog BBC Cymru yn camsefyll.

Dw i’n eitha hoffi Ar y Marc, blog am bêl-droed gan BBC Cymru,  (mae’n debyg mai fi ydy’r unig un sy’n ei ddarllen - tydi’r ffaith bod y blwch sylwadau wedi torri ers misoedd ddim yn help*), ond fe’m cythruddwyd gan osodiad mewn cofnod diwethar. Yn y cofnod Ddim yn gem mor brydferth wedi’r cwbl ! mae’r awdur Glyn Griffiths yn trafod trafferthion diweddar y gêm yn Lloegr, gyda’r helyntion yng nghylch hiliaeth a digwyddiad gwarthus pan ymosododd ‘cefnogwr’ Leeds United ar chwaraewr Sheffield Wednesday. Beth gododd fy ngwrychyn i oedd y sylw canlynol gan Glyn Griffiths:

Siom hefyd oedd gweld mai sefyll oedd cefnogwyr Leeds, a hyn mewn rhan o stadiwm a welodd un o’r trychinebau mwyaf yn y byd peldroed, ac a arweiniodd at sicrhau ( yn dilyn Adroddiad Taylor yn 1989) fod meysydd peldroed yn dod yn rhai sydd â seddau ar gyfer pawb.

Dw i’n ddim yn gwybod ble mae Glyn Griffiths wedi bod yn ystod y mis neu ddau ddiwethaf, achos mae llawer o sôn wedi bod yn y cyfryngau gan bod tystiolaeth o’r newydd yn cadanrhau mai gweithredoedd yr awdurdodau, yr heddlu’n arbennig, oedd yn gyfrifol am y marwolaethau, a’u bod wedi ceisio achub eu crwyn drwy roi’r bai ar y cefnogwyr.

Tydi newyddiaduraeth diog fel hyn, neu ail-bobi ffeithiau anghywir yn fwriadol ddim yn beth newydd, yn arbennig yng nghyd-destun trychineb Hillsbrough. Mae sawl enghraifft ar erthygl Wikipedia’r drychineb, gyda hyd yn oed y twlsyn Jeremy Hunt AS yn dwed mor ddiweddar a 2010 tra’n canmol ymddygiad cefnogwyr Lloegr yng Nghwpan y Byd yn Ne Affrica:

“I mean, not a single arrest for a football-related offence, and the terrible problems that we had in Heysel and Hillsborough in the 1980s seem now to be behind us.”

Des ar draws y dyfyniad uchod gan Hunt wrth darllen llyfr o’r enw Stand Up Sit Down: A choice to watch football, sydd, fel y gallwch falle ddyfalu o’r teitl, yn ymwneud â’r ymgyrch i ganiatau cefnogwyr pêl-droed i sefyll mewn gemau. Tra y gallaf ddeall na fydd y llyfr hwn ar frig eich rhestr at Siôn Corn eleni, mae’n werth ei ddarllen am sawl rheswm.

Ystadegau

Mae’n llawn ystadegau, fel prif achosion anafiadau mewn gemau pel-droed (llosgiadau diod poeth, pel yn taro pobl, pigiadau cacwn oedd y prif rai os cofiaf yn iawn) asawl person gafodd eu arestio am bod 100,000 o gefnogwyr mewn meysydd seddi i gyd o’i gymharu a meysydd ble caniateir sefyll (mae mwy yn cael eu harestio mewn meysydd eistedd yn unig).

Hanes trychinebau mewn meysydd pêl-droed

Mae llawer o sylw yn cael ei roi i Hillsborough wrth reswm, nid dim ond ar ddigwyddiadau diwrnod y drychineb ond hefyd gan adrodd sut bu pryder cyn y gêm parthed y trefniadau a chyflwr y stadiwm. Mae hefyd cryn dipyn o edrych yn ôl ar drychinebau eraill, fel Ibrox (1971) a Valley Parade (1985), a sut achoswyd y rhain gan esgeulustod o ran perchnogion y meysydd.

Y profiad o sefyll heddiw

Mae’r awdur Peter Caton, yn ymweld â gwahanol feysydd sy’n dal i ganiatau sefyll, er mwyn holi’r cefnogwyr yno, swyddogion diogelwch (safety nid security) a weithiau cadeiryddion y clybiau.

Dadleuon yn erbyn Adroddiad Taylor

Adroddiad Taylor a arweiniodd at deddfu fel bod rhaid i feysydd clybiau dwy adran uchaf yn Lloegr fod yn seddi yn unig. Roedd yr adroddiad yn seiliedig ar ddata a rhagdybieithau cwbl ffals a disail. Pan mae hyn yn cael ei esbonio i’r awdurdodau sydd gyda’r grym i newid y ddeddf neu ddylanwadu arno (megis Cymdeithas Bêl-droed Lloegr a Gweinidogion sydd a chyfrifoldeb dros chwaraeon), maen nhw hefyd yn ailadrodd yr un ddadleuon ffug ac yn pwyntio at ddata maen nhw eu hunain yn gwybod sy’n anghywir.

Mae rheolau mympwyol ble mae’n rhaid i glybiau sy’n ennill dyrchafiad i’r lefel hyn addasu eu meysydd ar ol treulio pum mlynedd ar y lefel hyn. Cyfanswm o bum mlynydd hynny yw, nid pum mlynedd o’r fron, a hyd yn oed os ydynt yn disgyn allan o’r gynghrair ar ol pum mlynedd rhaid dal cydymffurfio a mynd i’r gost, hyd yn oed os nad oes galw am y seddi. Yn ogystal a’r gost o addasu, mae hyn hefyd yn arwain at gyfyniad yn faint o bobl all fynychu gemau, sydd wedyn yn effeithio ar botensial incwm clwb. Mae’r rheol yma’n gwbl hurt gan ei fod wedi ei selio ar pa lefel mae clwb yn chwarae yn hytrach na beth yn union yw cyflwr eu maes ac unrhyw beryglon tebygol.

Mae anghysondebau hefyd ble mae campau eraill, megis rygbi, yn gallu parhau i adael i gefnogwyr sefyll, hyd yn oed ar y lefel uchaf.

Ryan Valentine scores

Mae’n debyg eich bod yn gofyn pam mod i’n teimlo mor gryf am yr hawl i sefyll – siawns byddai rhywun call ond yn rhy falch o’r cyfle i gael sedd gyfforddus? Mae’r llun uchod yn olygfa na welwn byth eto mae’n debyg, sef o bobl yn sefyll wrth wylio Wrecsam. Ro’n i’n un o’r cannoedd yno’n sefyll yn gwylio’r gêm dyngedfenol uchod ble roedd rhaid i Wrecsam ei hennill i aros yn y gynghrair. Mae cyfuniad o ffactorau wedi arwain at gau’r Kop yn Wrecsam, ond mae’r ddedfwriaeth gwrth-sefyll wedi chwarae ei ran ac fe all rhoi esgus i berchenog newydd y stadiwm (Prifysgol Glyndwr) i dynnu’r Kop i lawr a rhoi eisteddle pitw yn ei le

Adloniant gweledol ydy pel-droed, ac os ydy’r dorf yn dawel, mae’r awyrgylch yn ddilas ac anghysurys.  Un o’r pethau a’m denodd i i wylio pel-drod byw oedd yr awyrgylch a’r ymdeimlad o undod y cewch wrth gyd-ganu gyda dieithiriad.  Tra mae’n bosib canu ar eich heistedd, mae’n amlwg mai sefyll yw’r dull gorau, fel mewn capel wrth ganu emyn ac mewn eisteddfod wrth gystadlu.  Mae teras agored hefyd yn caniatau i chi gerdded o gwmpas a  dod ar draws ffrindiau ar hap, ac felly mae rhoi tocyna sedd penodol i bawb yn eich hamddifadu o’r ochr gymdeithasol o gyd-wylio gyda ffrindiau.

*Pob tro dw i’n trio gadael sylw, ac yn teipio’r llythrenau a’r rhifau cywir ar gyfer y CAPTCHA, ond yn derbyn y neges canlynol pob tro:

Gwall wrth anfon sylw

Methwyd anfon eich sylw am y rhesymau canlynol:

Rhoddwyd y testun prawf anghywir. Ceisiwch eto.

Cyhoeddwyd yn Heb Gategori | Gadael sylw

Efrog

Yn ddiweddar, gofynnodd Geraint i mi am dips am bethau i’w gwneud yn Efrog, gan fod fy rhieni-yng-nghyfraith yn byw gerllaw. Yn hytrach na jyst ebostio stwff ato, dyma gofnod blog yn y gobaith bydd y wybodaeth o ddefnydd i eraill.  Mae rhai o’r canlynol wedi ei gwneud hi i’m map.

Llefydd i weld

  • York Minster – Braidd yn amlwg falle, ond rhaid mynd i weld y lle yma o leiaf unwaith. Mae maint y lle yn unig yn anhygoel.  Mae modd hefyd cerdded i ben un o’r tyrau. Hanner yr hwyl ydy’r daith i fyny ar y grisiau (culion) a chael cerdded ymysg y bwtresi. Mae’r olygfa yn werth chweil, ac mae edrych lawr ar y strydoedd igam-ogam gerllaw fel edrych i lawer ar Ankh-Morpork.
  • Holy Trinity Church (Goodramgate), yn llythrenol yng nghysgod y Minster, mae’r Holy Trinity Church diymhongar yn gyferbyniad llwyr i’w chymydog gyda’i llawr anwastad a’i seti sgwar ochrau uchel. Mae’r lle’n dipyn o werddon os ydych am ddianc o brysurdeb y strydoedd cyfagos. Mae mynedfa iddi drwy fwlch rhwng dau adeilad, felly mae’n hawdd i’w methu.
  • York St Mary’s – Na, does gyda fi ddim fetish am addoldai – mae’r cyn eglwys yma wedi ei thrawsnewid i fod yn ofod ar gyfer installations celf. Fel arfer, un darn o waith anferth sydd i’w weld ar y tro, yn cymryd mantais llawn o uchder yr adeilad. Dw i wedi bod i weld sawl un, a byth wedi’m siomi.
  • City Screen – sinema sy’n dangos ffilmiau amgen tebyg i arlwy Chapter yng Nghaerdydd.
  • Museum Gardens – lle braf i ymlacio os ydy’r tywydd yn heulog. Rhyngddo ag adeilad Oriel Gelf Efrog (sy’n OK), mae adfeilion beth oedd yn adeilad Senedd Lloegr ar un adeg. Mae lle bach hufen ia neis yr olwg ar High Petergate gerllaw.
  • Blue Tree Gallery (Bootham) – oriel gelf fechan yn gwerthu gwaith gan artisitiad lleol

High Petergate. Mae amryw o lefydd bach neis i fwyta/yfed a siopa ar y stryd fechan yma ger y Minster:

  • Cafe Concerto – bwyd neis, lot o quiches a salads hyfryd a gwreiddiol. Reit poblogaidd oherwydd ei leolaid, felly ewch yno’n gynnar os am ginio.
  • Three Legged Mare – un o ddwy dafarn York Brewery. Er ei fod yn dafarn gymharol newydd dw i’n meddwl, mae naws draddodiadol i’r lle (h.y. pyb call) gyda dewis da o holl gwrw’r bragdy. (Minster Ale a Guzzler ydy fy hoff rai i).
  • Lamb & Lion Inn – heb fod yma eto, ond yn edrych yn neis (er drud mwn).

Gyda thafarndai canol y dref, allwch chi ddim mynd o’i le rili yn unrhyw un ohonynt.  Mae’r adeiladau eu hunain i gyd yn hynafol a heb gael eu difethau (a la Brains) ac fe gewch ddewis da o gwrw go iawn ym mhob un. Maen nhw’n cymryd eu cwrw go iawn o ddifri yn y rhan yma o’r byd.  Os ydych am fynd ag ychydig boteli o gwrw gan fragdai Swydd Efrog adre efo chi, mae amryw o siopau arbennigol, dwy ar Stonegate (stryd touristy) o flaen y Minster, offy ar Goodramgate (ble gofynodd y ferch am ID gennyf llynedd – fel joc!), a’r siop fach beryg yma yn Fulford a ddarparodd y cwrw i’n priodas.

Paned a chacen  Mae pobman yn gallu bod yn brysur yng nghanol y dref.

  • Am bach o heddwch, baswn i’n mynd am Gray’s Court, mae’n gymharol ddrud (er falle dim gwaeth na Betty’s Tearooms), ond mae mewn adeilad ffantastig ac wedi ei guddio mewn cwrt tu cefn i’r Minster.
  • Neu am rhywbeth rhatach, triwch Cafe Harlequin (King Square, uwchben siop bwci Labroke’s). Mae’r decor yn eitha plaen, ddim rhy brysur, ond mae’r coffi’n dda a’r perchenog yn gyfeillgar.

Bwyd – Dw i ddim yn mynd allan i fwyta llawer yn Efrog (mam-yng-nghyfraith yn gogyddes dda)

  • Ond os am rhywbeth safonol (ac ychydig yn ffurfiol), mae Middlethorpe Hall, (gan yr un pobl a Neuadd Bodysgallen ger Llandudno).
  • Ar ben arall y pegwn, rhywle sy’n newydd i mi, ond wedi clywed canmol amdano (yn arbennig y tagine cig oen) ydy Xing.
  • Gwerth sbio ar Cheap eats; York on a fork o flog Word of Mouth y Guardian.

[mi dria i gael argymhellion eraill yma]

Be sy mlaen?

  • oneandother.com – dois ar draws y wefan yma cyn ymweliad diweddar. Mae’n wych. Mae cylchrawn y cael ei gyhoeddi hefyd sy ar gael mewn caffis, bariau ac orielau. Tips da am fwyd hefyd.
  • visityork.org – gwefan swyddogol y ddinas ar gyfer ymwelwyr (ac un dda ‘fyd). Mae lot o ddigwyddiadau’n cael eu rhestru yma.

Cerdded

  • Afon Ouse/Rowntree Park.  Cerddwch o’r dref hyd at Millenium Bridge, ger Rowntree Park yn Fulford.  Gallwch amrywio hyd y daith drwy ddechrau wrth bont wahanol yn y dref.  Ar y ffordd, stopiwch am hufen ia mewn caffi bach ger mynedfa’r parc sy gyferbyn a Cliffords Tower, a/neu picio mewn i oriel According to McGee sy ychydig ddrysau i ffwrdd.
  • Waliau’r ddinas – Yr unig ran dw i wedi gerdded ydy o Monkbar (diwedd Goodgramgate), gwrth glocwedd hyd at y bont ger yr orsaf dren. Ddim rhy hir a chyfle i fusnesa mewn i erddi taclus ardal breswyl drud tu cefn i’r Minster.

[os am argymhellion am lefydd i fynd i gerdded gerllaw-ish, holwch yn y blwch sylwadau]

Cyhoeddwyd yn Teithio | Tagiwyd | 1 Sylw

Dymp dolenni Hacio’r Iaith Bach (Newyddion Lleol ac Ein Caerdydd)

Yn yr Hacio’r Iaith Bach diweddaraf, cafwyd sawl sgwrs ddifyr.  Dyma grynodeb o beth drafodwyd o dan y thema ‘Newyddion Lleol’ (er mwyn rhoi dolen o’r cofnod gwreiddiol ar haciaith.com).

Enghreifftiau o fodelau gwahanol/llwyddianus:

Denu cyfranwyr a chymedroli

  • Yn hytrach na jyst gofyn am gyfraniad (drwy ebost e..e.) gan unigolion neu sefydliadau, jyst creu cyfrif iddynt a danfon enw defnyddiwr a chyfrinair gyda chyfarwyddiadau a deud “ewch amdani!”.
  • Gallwch greu hyd at 30 cyfrif ar wasanaeth wordpress.com
  • Hefyd ar wordpress.com, mae modd gosod cyfrifon gyda lefelau gwahanol o hawliau. Lefel isaf yw ‘Cyfranwr’, ble mae rhaid i rhywun arall fod wedi gwirio erthygl/cofnod cyn iddo ymddangos yn fyw. Handi ar gyfer cyfranwyr newydd, a rhai sy’n llai hyderus am safon eu hiaith/sgiliau technegol.

Faint o bobl sy’n darllen, beth, ac o ble? Ffigyrau am eincaerdydd.com (cliciwch i weld graffiau)

Er mor isel yw’r nifer ymwelwyr a prn yw’r sylwadau (sniff), mae’n debyf bod rhywfaint o ddylanwad i’r blog – cafwyd ymateb da i gais am wirfoddolwyr i arolwg tafodiaith ac roedd pennaeth marchanta S4C yn trafod y blog gyda’m cyngyflogwr.

Cyhoeddwyd yn blogio, cyfryngau, Hacio'r Iaith | 2 Sylw

Digon gwrth-Brydeinig i swnio fel Sieg Hail?

Mae’r cofnod yma wedi bod y ffrwtian yn fy mlwch drafftiau ers mis Tachwedd 2011. Ers hynny, mae datganaiadau wythnosol bron yn dod sy’n cythruddo rhywun, felly dw i jyst eisiau postio’r cofnod yma!

Falle mod i’n wrth-Brydeinig*, ond gan mod i ddim yn gwirioni ar athletau nac yn ystyried fy hun yn Brydeiniwr, pob pedair blynedd pan ddaw’r gemau Olympaidd heibio, dw i jyst yn dwedu “meh!” ac yn newid y sianel. Ond gan ei bod yn ‘y wlad hon’ eleni, mae pethau’n dra wahanol.

Os oedd rhywun yn meddwl bod arian wedi difetha pêl-droed fel bod dim owns o urddas yn perthyn i’r gêm bellach, mae’r gemau Olympaidd yn waeth fyth.

All rhywun ond prynu tocyn drwy ddefnyddio cerdyn VISA, noddwyr swyddogol y gemau.  Petai chi’n ddigon dwl i brynu tocyn, a meddal y cewch fynd a’ch babi i’r digwyddiad gyda chi i eistedd ar eich glin, wel, na chewch, rhaid i hyd yn oed babis newydd anedig fod a tocyn eu hunain.  Gan bod pob tocyn wedi ei werthu (heblaw am y gemau pêl-droed – mwy am hynny nes ‘mlaen), mae hynny’n amhosib rwan.  O leaif os ydych yn gadael eich plentyn adre gyda’r ffrindiau/teulu, gallwch eu ffonio i weld os ydy popeth yn iawn….na chewch, oherwydd bydd gwaharddiad ar ffonau symudol (ymysg pethau eraill).

Petai chi’n byw yn agos i ble mae’r gemau’n cael eu cynnal ac yn bod mor hy a gosod hysbyseb yn ffeneset eich lloft, mae gan yr heddlu’r hawl dod i mewn i’r tŷ a tynnu’r hysbyseb i lawr**. Defnyddio adnoddau prin yr heddlu i warchod buddianau noddwyr, beth nesaf?

Os ffansiwch fynd yn noethlymun, cewch eich cosbi wrth reswm am ymddygiad anweddus, fel yr arfer. Ond os digwydd i chi fod wedi peintio hysbyseb ar eich corff, cewch gosb ychwanegol o hyd at £20,000.

Duw a helpo unrhyw un sy’n meddwl mynd a brechdannau eu hunain gyda nhw i unrhyw stadiwm, dychmygaf mai’r cosb eithaf sy’n wynebu unrhyw un na fydd yn prynnu Big Mac gan un o brif noddwyr eraill y gystadleuaeth.

OK, mae noddwyr barus yn gysylltiedig ag unrhyw ddigwyddiad mawr dyddiau yma, ond mae Cymru wedi colli allan yn sylweddol, er yr honiad y byddai’r DG gyfan yn elwa.

Clustnodwyd £2.2bn o arian loteri at y digwyddiad. Byddai canran ohono  (£30 miliwn yn ôl un amcangfrif) wedi cyrraedd Cymru fel arall.

O’r holl gytundebau adeiladau ac yn y blaen, rhoddwyd ond gwerth 0.01% i gwmniau o Gymru.

Mae’r gwaith adaeiladu ffyrdd newydd o gwmpas Llundain ar gyfer y gemau Olympaidd yn cyfrif fel ‘UK spend’, felly nid yw’r gwariant yn cael ei ystyreid pan mae’n dod i weithio allan faint mae Cymru’n dderbyn o dan formiwla Barnett. Mewn un achos, gwariwyd £200 miliwn ar ffordd i ganolfan siopa newydd, ac mae’n debyg bydd Cymru £10miliwn ar ei cholled yn yr achos yma’n unig.

Tîm pêl-droed TeamGB

Dyma beth sydd wedi fy nghorddi i fwyaf. Dyma grynodeb.

Medi 30 2006: Cyhoeddwyd byddai tîm pêl-droed Team GB yn cymryd rhan yn y gemau Olympaidd. Datganodd gymdeithasau pêl-droed Yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon eu bod yn gwrthwynebu hyn, gan y byddai’n peryglu statws eu timoedd cenedlaethol (bu bygythiadau i hyd a phleidlais am y peth yn y 1970au, ’80au a’r ’90au). Mae cymdethasau cefnogwyr y pedwar gwlad (gan gynnwys Lloegr) hefyd yn gwrthwynebu’r syniad. Ymateb Simon Clegg, prif weithredwr Cymdeithas Olympaidd Prydain (BOA):

“We will be going ahead anyway. It is the BOA who selects the Games team.”

Ac ymateb Yr Arglwydd Seb Coe, cadeirydd pwyllgor trefnu Gemau Olympaidd Llundain i bryderon y cymdeithasau pêl-droed:

Fuck em!

Medi 2008: Yn dilyn Cais am Ryddid Gwybodaeth, ymddengys i Lywodraeth Prydain gael eu rhybuddio gan swyddogion FIFA mor bell yn ôl a 2004 y byddai tîm pêl-droed unedig yn peryglu statws y pedwar tîm cenedlaethol, ac nad oedd unrhyw werth i ddatganiadau i’r gwrthwyneb gan Sepp Blatter, gan y gall ei ragflaenydd eu gwrthdroi.

Mai 2009: Daethwyd o hyd i gyfaddawd, ble byddai tim Seisnig yn unig yn cynrychioli Prydain.

Ebrill 2011: Wedi i bopeth edrych fel petai wedi ei ddatrys, dyma’r BOA yn mynnu y dylai chwaraewyr o bob gwlad yn rhan o’r tim.

Hydref 2011: I rwbio halen yn y briw, dyma’r BOA (neu falle adran farchnata Adidas) yn llwyddo i berswadio Aaron Ramsey (capten tim Cymru neb llai) a Gareth Bale i fodelu crysau Team GB. Yn rhyfedd digon, ni ofynwyd i ddim chwaraewyr Lloegr fodelu’r cyrs. Yn ol  un cefnogwr, roedd gweld y lluniau hyn:

It’s like seeing a video of your missus sucking off another man. Mochyn.

Fel gallwch ddychmygu, fe arweiniodd hyn at ddrwgdeimlad ofnadwy ymysg cefnogwyr.

Tachwedd 2011: Wel, wedi hyn, allech ddim dychymgu dim gwaeth yn digwydd. O leiaf fyddai’r BOA yn ddigon sensitif i beidio cynnal dim gem pel-droed Team GB yn Nghymru…

..o, sbiwch beth fydd yn digwydd yn Stadiwm y Mileniwm ar y 1af o Awst 2012.

Mae’r holl beth yma yn crynhoi Prydeindod i mi, ble mae ein meistri yn Llundain unai’n ddall neu’n gwbl ddihid tuag at deimladau a buddion Cymru a’r Cymry.

*Falle byddai rhywbeth fel “Beth wnaeth yr Olympiaid erioed i ni?” wedi bod yn deitl mwy addas, ond ro’n i’n meddwl baswn i’n trio denu ymwelwyr sy’n ffans Datblygu.

**Erbyn hyn, mae mesurau arbennig yn dod i Gaerdydd a fydd yn gwahardd unrhyw hysbysebu a gweithgarwch masnachol answyddogol o fewn 500 meter i Stadiwm y Mileniwm (h.y. canol y ddinas i gyd). Bydd hyd yn oed rhaid gorchuddo’r hysbysebion Brains ar y pontydd rheilffrodd!

Cyhoeddwyd yn Gwleidyddiaeth, Pêl-droed, Prydeindod | Tagiwyd | 1 Sylw

Blogio byw o Hacio’r Iaith 2012

Darllediad byw yma, a’r hashtag ydy #haciaith. Hefyd gofynwch gwestiwn ac gyfer panel Haclediad (12-1pm) drwy ddefnyddio #haclediad.

Sesiwn Cloi: (Rhodri, Carl, Elin, Bryn a Sioned)

Diolch i Elin a Mercator am y gofod ac i’r noddwyr, ac i bawb a roddodd eu hamser wrth drefnu’r digwyddiad.

Beth weithiodd?

Gwell amrywiaeth o bynciau na blynyddoedd blaenorol.

Beth wnaeth ddim gweithio?

Angen grid mwy

Rhy oer yn rhai ystafelloedd

Dim digon o de a choffi

Di Wi yn wan yn rhai ystafelloedd

Awgrymiadau?

O bosib bod a sesiynau mwy meddal, efallai daw mwy yn y dyfodol sydd ddim mor hyderus.

Amserlennu o flaen llaw i weithdai/pethau ymarferol.

Math o PA cyn dechrau pob sesiwn. Efallai system arlein neu ar sgrin.

Sesiwn 6: Huw Marshall yn son am ei syniad o Radio’r Cymry. Yn y gorffennol, Cymry Cymraeg yn meddwl bod rhaid ‘cael caniatad’ cyn mynd a syniadau ymlaen a gwneud rhywbeth. Pam ddim gwneud stwff ein hunain?  Twitter wedi bod yn gymorth lledaenu’r neges, ond hefyd ddim yn cyrraedd pawb o bell bell ffordd.

Am ddefnyddio system shoutcast.

Pa fath o gynnwys? Dylai Radio Cymry (neu ‘Cymru‘?) fod yn cynnwys mwy o gomedi a cherddoriaeth.

Pa fodel. Dylid defnyddio model fasnachol o werthu hysbysebion. Mae Bridge FM (ardal Penybont) yn darlledi i boblogaetho ddim ond 80,000.  Llawer mwy o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru….a thu hwnt.

Rhagleni sampl yn cael eu creu rwan ac am gael eu cyhoeddi arlein yn fuan.

Angen plwraliaeth darlledu yny Gymraeg. Yr elfen gorfforaethol o fod yn atebol i’r llywodraeth. Radio’r Cymry yn gallu ymateb i gynulleidfa.

Falle cael nawdd i raglen penodol (e.e. LoveFlim ar gyfer rhaglen adolygu ffilmiau.)

‘Sdim rhaid mynd gyda GoogleAds,  ffynhonellau eraill ar gael sy’n gallu targedu hysbysebion yn well  a gwireddu mwy o incwm.

Ddim eisiau hysbysebion yn tarfu ar raglenni, ond yn ymddangos ar y wefan.

Rhaid apelio i’r siaradwyr Cymraeg sy’n gwrando na gwylio dim ar Radio Cymru a S4C.

Standup sy’n gyrru adloniant ym Mhrydain, ond dim cyfleoedd/platfform ar Radio Cymru.

Does dim rhaid cael slot hanner awr, teledu sy wedi ‘gorfodi’. Gallant fod yn snipets.

Pedair ysgol uwchradd Cymraeg Rhondda Cynon Taf gyda gorsaf radio eu hunain yn yr ysgol.

‘Sdim angen adeilad – Robert Peston (Radio 4?) yn darlledu o’i lofft yn ei PJs.

Dylanwad Llundain ar newyddion Cymru.

“Mae’r chwyldro yn mynd i ddigwydd ar y we!”

 

Sesiwn 5: Fi’n siarad am y Wicipedia (crash and burn go iawn.), Yna Jim Killock yn son am fanteision rhoi trwydded Creative Commons ar eich gwaith, ac yn arbennig y mantais i ddeunydd Cymraeg sydd ddim yn cael ei weld gan lawer o bobl yn y lle cyntaf.  Cyfeiriodd at wefan vo.co sy’n rhestru ffilmiau o dan drwydded Creative Commons a ble mae pobl yn cyfranu arian. Mae un wedi derbyn $89,000.

Sesiwn 4: Lot o stwff yn ymwenud á’r Cymraeg i Oedolion.

Leia ac Ifan yn son am SaySomethingInWelsh.com, cwrs arlein, ar mp3, dim gwaith ysgrifenedig. Rheol 1 – PEIDIWCH SGWENU DIM BYD.

Yn ogystal a’r cwrs ei hun, mae’r gymuned sy wedi adeiladu o’i gwmpas yr un mor bwysig. Y gymuned yn creu cyrsiau eu hunain. Dathlodd y wefan ei 3ydd pen-blwydd wythnos diwetha yn Aberystwyth. Daeth tua 50, un o UDA, ac ymunod pobl o UDA, y Ffindir ac Awstralia yn ymuno ar GoogleHangout. Bootcamp yn spinoff. 10 person yn dod i aros yn Nhresaith. Dim gwersi, ond rheol dim Saesneg. Ifan wedi bod i ddau bootcamp ac wedi gwneud gwahaniaeth mawr i’w allu i siarad Cymraeg.

Tasgau arbennig (mynd at bbol ar stryd fawr Llambed yn gofyn gwestiynnau random (“Oes llyfrgell yma? “Ydych chi’n gallu canu?).

Map Google yn dangos defnyddwyr. Lot yn gwneud peehau[n wirfoddol.

Spin-offs (gan ddefnyddiwyr)

Lesson Guides. (Ym mha unedau ymddangos gerifa/patrumau arbennig)

Wiki

Moodle Gwaith Leia (gyda guest access) i dysgu pobl yn eu gwaith. Defnyddio hanner gwers cyntaf SSIW Cynllun gwersi. Geirfa swyddfa.

GoogleHangOut, at gyfer cwrdd mewn grwp neu trefnu parneriaid dysgu ar gyfer pobl yr un lefel.

Soundcloud. Pobl yn gallu gadael sylw ar bwyntiau pendol o fewn ffeil.

@DailyWelshWords Iestyn a Cat, 3 gwaith yr wythnos yn postio gair Cymraeg ond ddim yn esbonio ei ystyr. Pobl yn ateb gyda brawddeg Saesneg yn cynnwys y gair yn Gymraeg. Aildrydar atebion cywir.

Eisteddfod arlein. Y gymuned yn talu am wobroau a noddwyr fel siopau llyfrau o Gymru ac Amgueddfa Sain Ffagan.

Yn y dyfodol

SaySomethingIn.....  (Dechrau gyda Sbaeneg. Ffrangeg nesaf, wedyn gobeithio Llydaweg a Chernyweg.)

Proses o dorfoli datblygiad technegol y wefan gan ddefnyddio sgiliau gwirfoddolwyr. Bwriadu creu gwefan rhanu ffeiliau. Yna Aran a Iestyn i ganolbwyntio ar greu mwy o gyrsiau.

@malpate nesaf yn son iTunesU ble mae Prifysgol Morganwg wedi postio adnoddau i ddysgwyr ar ffurf fideo a mp3.

Sesiwn 3: Jim Killock (Open Rights Group) yn son am newidiadau gan w3c (corff safoni gwefannau) ynglyn a'r ffyrdd mae cookies yn cael eu storio a'u rhannu. Pa mor bell gellir mynd? Unai rhwystro casglu cookies yn llwyr, neu galluogi unigolion i gyflwyno rhestr i'ch porwr o wefannau nad ydych eisiau cael mynediad iddynt oherwydd eu arferion casglu data a proffeilio? Anodd dal i fyny a beth sy'n cael ei drafod a theipio!  Ydy cwmniau'n cymryd diogelwch o ddifri?  (Gol. Mae Jim Killock wedi cyhoeddi cofnod am yr union bwnc ar wefan yr Open Rights Group.)

Hefyd yn trafod rheolaeth yr unigolyn dros data eu hunain, gyda'r holl transactions gwahanol rydym yn wneud ar lein.  Angen system universal (TEBYG i paypal) ble nad oes rhaid i bawb ailadrodd ac ailrannu eu manylion pob tro. Angen penderfynu ar protocol yn hytrach na chael lockin/monopoly gan PayPal.

Sut ydym yn talu am wasanaethau am ddim (Facebook er enghraifft). Ein data yw ein taliad.

Data Protection Directive, tensiwn rhwng buddianau unigolion a chwmniau mawrion eisiau rheolau mor llac a phosib.

Sensoriaeth. Gwleidyddion yn sensora fel ymateb i piracy. Gwefan newsbin.com yn cael ei flocio gan bod cwmniau mawr yn meddwl bod nhw'n mynd yn groes i reolau hawlfraint. Y wefan yn dal i ailymddangos. Ydy blocio yn ddigon/yn addas? Blocio wedi arwain at mwy o sylw a mwy o ddefnydd o'r wefan!  fttp:// yn gweithio fttps:/// (?) ddim. Encryptio yn golygu gall ISP ddim cael ei flocio'n llwyddianus. Gwneud i newsbin.com edrych fel yr un oedd yn cael cam.

[gliniadur yn cael gorffwys yn ystod yr Haclediad a cinio]

Sesiwn 2: Blogio/ S4C2.0.   Lot o sesiynau diddorol ymlaen, ond es am yr un iawn achos mae Elliw (Paned a Chacen) wedi dod a chacen lemon drissle hyfryd.  Elliw yn son am  ei phenderfyniad i ddechrau blog a beth sy wedi dod yn ei sgil. Ar hyn o bryd yn sgwennu llyfr, yr enghraifft cyntaf o ‘blog i lyfr’ yn Gymraeg.  Defnyddio’r blog a Twitter i ofyn i am syniadau am beth i bobi nesaf.  Cafodd spike mewn ymwelwyr ar ol ymddangos ar raglen Blas ar Radio Cymru, a hefyd ar ddiwrnod Santes Dwynwen. Mae’n cymryd lot o amser, gan bod rhaid pobi yn ogystal a sgwennu. Mae Elliw gyda tua dau neu dri cofnod ar eu hanner yn baord ar y tro.
Share photos on twitter with Twitpic

 

S4C 2.0 gan Bryn.  Dim gweiddi heddiw. Darlledu arferol dan fygythiad gan YouTube, TWiT.tva 5by a pobl yn creu cynnwys eu hunain.  Diffyg dewis yn y gorffenol ond ddim bellach gyda chwyldro y we. 1 awr o gynnwys yn mynd lan ar YouTube pob eiliad.  Lot o ddyfyniadau o’r llyfr What Would Google Do? yn berthnasol i S4C. Y syniad o sianel wedi diflannu.

Posibiliadau hysbysebu wedi eu targedu yn well, wedi ei selio ar leoliad, a gyda dyfeisiau symudol gellir cysylltu hysbyseb bwyty/sinema gyda system archebu bwrdd/tocyn.  Gallu  creu cymdeithas, cysylltu actorion, rheolwyr, cynhyrchwyr a staff gyda’r cyhoedd. Rhaglen MythBusters yn cynhyrchu fideo yn dilyn pob rhaglen yn ymateb i sylwadau dderbyniwyd gan wylwyr.  Rhywun o S4C yn dweud roedd adborth am cariad@iaith yn llywio ffurf a chynnwys y rhaglen blaenorol.  Daniel Glyn yn son am ei brofiadau wrth gynhyrchu rhaglen am Rhys Ifans. Stwff a ddaeth o adborth wedi bod yn werthfawr.

O’r llawr, (Rhun) “Ydy hyn yn hysbyseb am ddim i Facebook a Twitter?”  Ydyn nhw angen hysbysebu?  Rheol newydd yn Ffrainc bod rhaid rhoi yr un math o ‘hysbys’ i bob gwasanaeth/cwmni (meddai Carl). Yn Gymraeg, mae angen y critical mass, felly rhaid mynd i ble mae’r gynulleidfa (Iwan).

 

 

Sesiwn 1: Rhan 1: Dyfodol Newyddion Lleol – Rhys a Sion yn son am waith ymchwil i gynnwys newyddion lleol, wedi ei ddarparu gan pobl lleol, o bosib yn defnyddio rhwydweithiau papurau bro.  Rhedeg peilot ym Mangor, Caerdydd a (Chaerfyrddin?) i weld eu hagweddau tuag at roi cynnwys arlein ac anghenion hyfforddi. Trafod am pobl yn ansicr o’u Cymraeg, cyfleodd targedu hysbysebion lleol. Mynd o gwmpas gyda camra-flip i ddigwyddiadau. Oes enghreifftiau. Wrecsam.com (Saesneg) Glo Man (papur bro yn defnyddio Blogger) Y Clawdd (papur bro ar ffurf PDF a Facebook).  Arian hyfforddiant/sbardun gan Ganolfan Cydweithredol Cymru. Papurau bro ofn colli eu statws. Creu rhywbeth ochr yn ochr, yn ychwanegol. Dylestwydd ar bobl i gyfrannu (amser, cynnwys ac arian).

Peidio bod ag obsesiwn am arian cyhoeddus, ond efallai gosod amodau ar bapurau bro i gyhoeddi arlein.

Peidio ailddyfeisio’r olwyn, defnyddio pethau fel WordPress.

Angen mwy o esiamplau i sbarduno eraill.

Sesiwn da, lot o gyfrannu. Parhewch y drafodaeth yma.

 

Cyhoeddwyd yn Hacio'r Iaith | 1 Sylw

Hacio’r Iaith 2012

Bydda i’n mynd ar bererindod i Aberystwyth y penwythnos yma. Mae mynd i Aberystwyth wastad yn braf, ond mae’n well fyth pan mae anghynhadledd blynyddol Hacio’r Iaith ymlaen yno.

Dyma fideo gan Rhodri (y boi sy’n gyfrifol am wneud i’r holl beth ddigwydd) yn rhoi disgrifiad o’r diwrnbod a beth mae o’n edrych ymalen i’w weld a chlywed.

Dyma gofnod gan Bryn sy’n esbonio ychydig am drefn digwyddiad o’r fath.

Llwyddodd Sioned i wireddu breuddwyd oes a chael ei hun ar soffa Wedi 7 gyda John Hardy i drafod y digwyddiad.

Mae manylion llawn y dydd ar wici Hedyn.

Cyhoeddwyd yn blogio, Hacio'r Iaith | Tagiwyd | Gadael sylw

Dim ond fi, y draffordd a gwasanaeth radio cyhoeddus

Prynhawn ‘ma, ar ôl danfon fy ngwraig a’r peiriant pw-pw at dylwyth yn Warrington, gyrrais yn ôl am adre ar ben fy hun gyda rheolaeth llwyr ar fy nhynged, ac am unwaith, ar ddeial y radio. Ond cyn sôn am yr arlwy y profais ar y radio, hoffwn sôn am arlwy hanfodol ar gyfer taith ar drafforth, sef coffi. Mae rhieni fy ngwraig yn byw jyst tu allan i Efrog, felly rydym yn hen gyfarwydd a gwasanaethau ochr traffordd. Chwarae teg, maen nhw’n gyfleus ofnadwy, ond ar y cyfan, mae nhw’n depressing, di-enaid a drud (er, mae’r rhain yn Cumbria yn edrych yn wahanol).

Pan gyrhaeddais Wasanaethau Stafford a gweld y ciw ANFETH ac araf yr olwg wrth gownter Costa, dyma droi’n ôl i’r car, chwilio am bentref/tref rhwng y ddwy gyffordd nesaf yn yr atlas, a gwglo ‘real ale, Penkridge’ ar fy ffôn, a dilyn fy nhrwyn. Ie, dw i’n gwybod mai chwilio am le i gael coffi o’n i, ond am ryw reswm, dw i’n meddwl bod unrhyw dafarn sy’n gwrthu cwrw deche hefyd yn mynd i wneud coffi hanner call hefyd, er gwyddwn nad yw hyn yn wir pob tro. Roedd canlyniad cyntaf Google wedi awgrymu The Swan yn Whiston, sy’n diwgydd bod yn enillydd teitl tafarn y flwyddyn y gangen CAMRA lleol, ond roedd ychydig bach gormod off-piste, felly mentrais i’r Littleton Arms, sydd ar y prif stryd wrth i chi yrru drwy dref fechan a thwt Penkridge. Mae’n adeilad deniadol, gyda bwydlen neis, a dewis da o gwrw go iawn (gan gynnwys un gan Purity Brewing Co. dw i wedi clywed cymaint amdanynt) ac yn cynnig papur newydd i’w ddarllen a wi-fi am ddim. Yn anffodus, dim ond OK oedd y coffi Americano a’r brownie siocled, er fe lenwodd dwll ac roedd y staff yn hynod gyfeillgar, felly baswn yn bendant yn mynd yn ôl yno (os byddaf byth ar sesh drwy Swydd Stafford wledig yn y dyfodol!).

Yn ôl i’r car i wrando ar y radio. Tydw i ddim yn gwrando ar lawer o radio o gwbl (oni bai mod i’n digwydd bod yn golchi llestri pan mae Radio Shwmae arnodd), nac ychwaith gyda lot o fynedd gyda phêl-droed Uwchgynghrair Lloegr, ond heddiw mi ges i wledd amrywiol iawn, a diolch i’r BBC am hynny. Cyn cyrraedd Penkridge ro’n i wedi dal diwedd y gêm hynod rhwng Man Utd a Man City (gyda Man City yn ennill 6-1, ac oddi cartref, os nad ydych yn dilyn y gamp). Hefyd ro’n i wedi cael fy siomi ar yr ochr orau gan y cerddoriaeth ar raglen Gaynor Davies, a’i gwestai, Lisa Jên, a ddewisiodd gân gan The Black Arm Band o Awstralia, rhyw fath o collective o artisitiad sy’n canu yn ieithoedd brodorol y wlad.

Wedi ailgychwyn y daith, dyma ni fwy o bêl-droedd cyffrous, gyda chanlyniad annisgwyl QPR yn curo Chelsea (eto ar Radi 5 Live). Wedi hynna, newid cywair yn llwyr, drwy wrando ar yr annwyl Hardeep Singh Kohli yn cyflwyno Pick Of The Week ar Radio 4 – lot o stwff difyr yma, a braf oedd y ffordd roedd yn plethu themâu ambell eitem roedd yn adolygu gyda ei fagwraeth ei hun yn Yr Alban. Gorffenais y gloddesta gyda rhaglen gwbl newydd i mi, sef Sesiwn Fach, ble roedd y cyflwynydd Idris Morris yn sgwrsio gyda Danny KilBride (Cadeirydd TRAC Cymru) a Iolo Whelan (o’r grŵp Mabon ymysg eraill). Nid mod i ddim yn lico stwff gwerin, tydy o byth ymath o beth dwi’n mynd i chilio amdano, ond wedyn dw i wastad yn ei fwynhau pan glywaf o, yn enwedig stwff Cymraeg.  Yn rhyfedd ddigon, roedd sgwrs ar y rhaglen yma, ac rhwng Lisa Jên a Gaynor Davie yn gynharach, yn sôn sut mae cerddorion gwerin Cymru yn cael cymaint gwell ymateb a chydnabyddiaeth tu allan i Gymru nac ydyn nhw yng Nghymru. Chwaraewyd gân Llydaweg ar y rhaglen yma gan Alan Stivell ac artist arall.

Ydy hyn yn record i Radio Cymru sgwn i, ble chwaraewyd mwy nag un cân mewn iaith arall (ag eithrio Saesneg!) ar fwy nag un rhaglen ar yr un diwrnod?

 

Cyhoeddwyd yn cyfryngau | Tagiwyd , , , , , | 1 Sylw

Eisteddfod Genedlaethol 2011 drwy lygaid blogwyr

Tra mae’r cyfryngau traddodiadol, megis papurau newydd a radio wedi rhoi llawer o sylw i’r Eisteddfod, mae yna amrwyiaeth da o gofnodion blogiau wedi bod hefyd. Dyma grynodeb:

Gan bod y pedwar Eisteddfod diwetha wedi bod o fewn awr i unai cartref fy rhieni yn y gogledd neu fy nghartref i yn y de, dw i heb dreulio wythnos Eisteddfod o wersylla a mynd allan i’r tafarndai lleol ers 2006. Dyna pam ro’n i’n genfigenus o Leia a sgwennodd gofnodion dyddiol ar Not Since School… o’i hwythnos hi, gan sôn yn fanwl am beth wnaeth ar y Maes ac am wibdeithiau yn yr ardal.

Fel basech yn disgwyl, roedd sawl cofnod ar Plaid Wrecsam, gyda Marc yn cloriannu’r wythnos ac yn cynnig awgrymiadau am wellianau. Mae sylw juicy o dan yr un cofnod gan Nia Lloyd sydd wedi gwneud cais Rhyddid Gwybodaeth:

Wedi bod yn cysidro beth sydd yn digwydd a cyllid yr Eisteddfod ers rhai blynyddoedd rwan, wedi cael ymateb heddiw gan Elfed Roberts, prif weithredwr i gais rhyddid gwybodaeth.

Blog lleol arall ydy Copa’r Mynydd. Cafodd Ro wythnos brysur yn Maes D, yn gweini yn y caffi ac fel bownsar tu cefn i’r llwyfan!

Daeth Jonathan yr holl fordd o Derby ar gyfer yr Eisteddfod. Ar ei flog, Llais Y Derwent, cewch ddarllen am ei wythnos prysur,  gan gynnwys rhoi cyflwyniad am ‘Ddysgu Cymraeg tu allan i Gymru’. Baswn i wedi hoffi clywed y sgwrs yma.

Roedd Neil (Clecs Cligwri) yn rhannu llwyfan gyda Jonathan Simcock yn y cyflwyniad uchod. Mae sawl cofnod am y Steddfod ar ei flog. Dw i’n meddwl bod Neil yn mwynhau’n arw pan mae Eisteddfodau yn dod i’r gogledd ddwyrian, gan ei fod yn gyfleus iddo deithio, ond eleni roedd yn fwy arbennig fyth gan iddo gyrraedd pedwar olaf y gystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn.

Os fetho’ch chi Orsedd y Dreigiau (“wedi ei selio ar y rhaglen deledu Dragons Den“), na phoener, mae adroddiad hir o’r gystadleuaeth ar flog Telesgop. Telesgop hefyd sy’n ennill y wobr am y Deitl Blog Hiraf 2011.

Fel minnau, tydy Elin o flog Melin Wynt ddim wedi bod yn cael cyfle i lawn fwynhau Eisteddfodau diweddar am wahanol resymau, ond mae wedi gwneud yn iawn am hynny eleni. Mae’ nodi ei huchafbwyntia – a’i hisafbwyntiau:

Nos Wener ar y Maes: Gweld llenor o fri yn neud pi-pi tu ol pabell Mantais. Na dim diolch!

Mae ambell gofnod ar flog newydd sbon o’r enw Anwadalwch. Er i Aled fwynhau’r gigs, mae ganddo feirniadaeth am feirniadaeth gobldicwcaidd Donald Evans ar gyfer cystadleuaeth y Goron. Darllenwch y dyfyniad – mae fel petai wedi cael ei sgwennu’n Saesneg gyntaf a’i drosi gan GoogleTranslate!

Draw ar rhysllwyd.com, mae gan Rhys llawer i’w ddweud am ei brofiad Eisteddfodol ei hun, gan gynnwys digwyddiadau Cymdeithas yr Iaith. Ond hefyd mae’n nodi sut mae proffeil oed mynychwyr Maes-B wedi newid a’i bryder am ymddygiad Cymry ifanc (a ddim mor ifanc) pan mae’r ddiod feddwol yn y cwestiwn.

Mae yna round-up campus ar Blog Pethe, ond mae Gwion yn dioddef o PED.

O’r blogiau Saesneg:

Ar Grangetown Jack, mae ambell gofnod gan Ian yn sôn am sut bu i’w deulu fwynhau eu hymweliad cyntaf a’r ardal, ond bod o’n pryderu na elwod yr ardal o ymweliad yr Eisteddfod a’i restr o uchafbwyntiau ac isafbwyntiau.

Mae gan Gareth Hughes sawl llun o’r Lle Celf, ac yn llwyddo cael dig at ‘carachar’ [sic] Cymraeg Caerdydd (that’s his job).

Draw ar flog Wales Music y BBC, mae Adam Walton yn disgrifio ei noson yn DJ’o yn gig nos Sadwrn Maes B ac yn siarad am ei gariad newydd – y band Dau Cefn.

Ar Welsh Icons mae canllawiau ar How to recreate the Eisteddfod in your own home in ten easy steps. Doniol, ond sobor o wir.

Ac i gwblhau’r cylch llosgachol meta-flogio, meta-eisteddfodaidd, draw ar Haciaith.com, mae Rhodri’n rhoi ei farn ar gystadleuaeth blogio yn Eisteddfod eleni ac y flwyddyn nesaf. Mae’n annog pob blogiwr Cymraeg i gymryd rhan.

Dw i’n siwr mod i wedi methu sawl cofnod blog. Rhestrwch neu yn y blychau sylwadau.

Gol. Hefyd ar Haciaith.com, mae Carl wedi postio cynnwys Darlith Goffa Owen gan Euryn Ogwen Willaims o dan y teitl ‘Y Newid Mawr’. Nid yn unig hynny, drwy wyrth y we, mae wedi cloddio a dod o hyd i gynnwys sgwrs/darlith  o 1998 gan Euryn Ogwen ar  pan roedd yr Eistedddfod yn Mhen-y-Bont.   Hoffwn weld mwy o gynnwys tebyg o’r Eisteddfod yn cael ei gofnodi arlein yn dilyn y digwyddiad.

Cyhoeddwyd yn blogio | Tagiwyd , | 1 Sylw

Casglu blogiau Cymraeg (byw neu’n cysgu) – Eich mewnbwn o.g.y.dd.

Ers i’r blog Cymraeg cyntaf ymddangos yn 2004 (neu 2003, neu gynt?), mae nifer o rai eraill wedi dilyn.  Mae rhai yn dal i fynd heddiw, rhai wedi eu gadael (ond yn dal ar gael), ac eraill wedi diflannu’n llwyr (unai dryw ddewis yr awdur neu oherwydd telerau’r cwmni llety).

Mae sawl newid wedi bod. Ar y dechrau, roedd bron pob blogiwr Cymraeg yn roi dolen at bron i bob blog Cymraeg arall. Gydag amser, fe newidioedd hyn, yn rhanol gan bod oes y blogroll wedi dod i ben, ac hefyd gan bod cynifer o flogiau Cymraeg, roedd pobl yn dewis a dethol pa flogiau roeddynt yn ddarllen a pha rai roeddynt yn rhoi dolen atynt. Roedd hyn yn beth i’w groesawu, sef bod pobl yn rhoi dolen yn ôl a blaen i’w gilydd gan bod y blog o ddiddrodeb, ac nid o ddyletswydd.

Fel mae amser wedi mynd yn ei flaen (a gyda chwymp ym mhoblogrwydd cadw blog?), mae’r byd blogio Cymraeg wedi dod yn fwy darniog, ac efallai gyda llai o gyswllt rhwng y blogiau a’r blogwyr.

Dw i wedi manteisio wici Hedyn (rhyw bwll tywod i botsian gyda’r ‘pethe’ Cymraeg ar-lein) i gasglu blogiau Cymraeg. Mae’r casgliad yn cynnys blogiau byw a rhai sydd ddim gyda ni bellach.  Mae sawl peth wedi fy ysgogi, ond yn bennaf i ddangos y fath amrywiaeth sydd ac a fu.

Mae defnyddio wici i wneud hyn yn fy ngalluogi i ddodi’r blogiau mewn gwahanol gategoriau, a dw i wedi dewis y canlynol:

Dyddiad sefydlu – er mwyn gweld os oes trends.

Lleoliad - I weld sut fath po ddosbarthiad sydd (o fewn Cymru a tu allan iddi), ac hefyd falle i weld os byddai’n annog  pobl i drefnu blog-gwrdd lleol os byddant yn sylwedodli bod sawl blogiwr arall gerllaw.

Pwnc – Dau reswm, un i ddangos yr amrwyiaeth, ac yn ail i geisio uno pobl sy’n blogio am yr un pwnc

Platfform cyhoeddi – Eto, oes trend? Dw i’n credu mai Blogger oedd yr un mwy poblogaidd ar un adeg, ond falle bod hyn wedi/yn newid

Cenedl yr awdur – Gender nid nationality. Beth yw’r ratio dynion/merched? Ydy o’n wahanol o’i gymharu a blogwyr ieithoedd eraill? Ydy o wedi newid tros amser?

O ble dw i’n casglu’r blogiau?

Tydi’r rhestr ddim yn gyflawn eto.  Dw i wedi dechrau gyda blogiau sy’n dechrau gyda A a B ac wrthi’n gweithio trwy’r rhestrau ymayma, yma ac yma. Mae’r rhain yn seiliedig ar fy blogroll i, ond mae nifer o hen flogiau ar goll arno ac hefyd sawl un newydd sy wedi ymddangos yn y flwyddyn a hanner diwetha nad ydw i wedi cofio eu dilyn.

Eich help chi.

Gan mai ar ffurf wici mae’r casgliad, gall unrhyw un gofrestru gyda Hedyn a cyfrannu at y casgliad.  Neu os sylwch mod i wedi methu rhwybeth, croeso i chi adael sylw ar y wici neu ym mlwch sylwadau’r cofnod yma os yw’n well gyda chi (er, ar y wici fasai orau).

Hefyd, mae gyda fi gwestiwn neu ddau ynglân a sut i drefnu’r casgliad. Eto, gadewch sylwadau ar y wici neu yn y blwch sylwadau yma.

Parchu preifatrwydd y blogiwr - Yn y meysydd enw, lleoliad a chenedl, dw i’n gadael rhain yn wag os nad yw’n hysbys ar dudalen blaen, neu adran ‘Ynlyn a’ yn blog.  Os ydw i’n gwybod yr ateb i un o’r tri uchod, dach chi’n meddwl bod o’n iawn i wneud chwiliad o fewn y blog rhag ofn bod y wybodaeth yn wedi ei grybwyll mewn cofnod, ac wedyn ei nodi yma? Ydy hyn yn rhy sensitif?

Lleoliad- Os yw’r person wedi symud ers seydlu ei flog/blog, dw i’n eu nodi mewn mwy nag un categori. Dw i’n rhoi mwy nag un lleoliad i lawr os yw’r blogiwr wedi symyud tra’n cadw’r blog. Cymru wedi ei rannu’n siroedd (presenol), tu allan i Cymru wedi ei rannu i wledydd yn unig (falle rhannu UDA yn ôl talaith).

Pwnc – Falle mai hwn ydy’r peth mwya trici a sy’n debygol o fod yn ddadleuol.  Tydy rhai pobl ddim yn licio cael eu categoreiddio ac efallai bydd eraill yn anghytuno gyda diffiniad categori.  Hefyd, ydy hi’n bosib cael gormod o gategoriau? Oes eisiau ail-enwi rhai? Oes rhai ar goll?

Cyhoeddwyd yn blogio | 2 Sylw

Y Teimlad Cenedlaethol: Cymru a’i gyfoeswyr

Yr uchod yw teitl cyfrol mis Hydref 2010 or’ cylchgrawn Y Traethodydd, ac hefyd teitl erthygl oddi mewn iddo gan Lowri Angharad Hughes o Brifysgol Bangor. Y ‘Cymru’ a gyferir ato yw’r cofnodolyn Cymru a lansiwyd yn 1891 gan O. M. Edwards.  Mae’n erthygl diddorol tu hwnt, yn trafod nid yn unig Cymru, ond sawl chyhoeddiad arall Cymraeg, Cymreig a Saesneg a ddaeth i fodolaeth tua’r un adeg, beth oedd yr ysgogaeth tu cefn iddynt ynghyd a chyd-destyn y cyfnod a’r datblygiadau cyffrous ym myd cyhoeddi.

Dw i ddim yn gwybod os ydych yn gyfarwydd a’r gyfres Radio 4 o’r enw The Long View, sy’n dewis pwnc cyfoes ac yn edrych am enghreifftiau o sefyllfaeodd rhyfeddol o debyg yn y gorffenol, ond dyma’r erthygl yma’n gwneud i mi feddwl am sefyllfa’r Gymraeg heddiw a’r cyfleoedd ar gael drwy gyhoeddi ar-lein, er mwyn tynnu pobl a diddordebau tebyg at ei gilydd a gallu lledaenu a thrafod materion o bwys.

Mae’n werth darllen yr erthygl yn llawn (mae copi yn Llyfrgell Caerdydd), ond dw i am godi ambell ddyfyniad ohoni:

Mae’r gwelliant sydd wedi eu dwyn i  mewn i’r gelfyddyd o argraffu, ynghyd a rheilffyrdd, y llythyrdy, y telegraff, a gellill chwanegu haul-luniaeth, oll wedi dyfod i wasanaethu llenyddiaeth. Y wasg ydy gallu gwareiddiol cryfaf yng Nghymru heddyw [sic], yn gystal ag yn y deyrnas yn gyffredinol. Mae y cylchgronnau, papurau a’r llyfrau syd dyn cael eu tywallt o’r wasg Gymreig yn dylanwadu ar fywyd pobl Cymru i raddau anisgwyliadwy.

Mae’r dyfyniad yn tynnu sylw at gelfyddyd, argraffu, pwysigrwydd systemau cyfathrebu a gallu’r wasg i ddylanwadu. Amcan O. M. Edwards oedd sicrhau bod y Cymry ifanc (a hen) a oedd yn cael blas ar ysgrifau gwleidyddol o Loegr hefyd yn gallu darllen rhywbeth tebyg yn Cymraeg ac am Gymru, a thrwy hynny siapio ymwybyddiaeth newydd o Gymru, o fod yn Gymro a hyrwyddo syniadau cenedlaetholgar.

‘The Medium is the message’. Dyma oedd gan Aled Jones i’w ddweud yn ei astudiaeth ei hun:

there was a deliberate edge of hyperactivity of Welsh journalism in this formative period. their producers were evidently persuaded of the view that newspapers and journals were agents as well as symptoms of social change, and the press was overwhelmingly perceived as a medium which performed a structuring, rather than a merely reflecting role in the institutions and activities of public life.

Gwelwyd defnyddiau eraill i’r cyfrwng newydd yma hefyd. Dyma ddyfyniad o Y Diwygiwr yn 1847:

Cymru a’i thrigolion wedi dyfod rywfodd yn wrthrychau sylw cyffredinol. Daw Saeson fel gywbeb dros Glawdd Offa, ar lun Golygddon, Adroddwyr Papurau Newydd, DirprwywyrLlywodraeth, a rhyw fwnw o’r fath: gwelir y gweilch hyn, yn llawnder eu hurddas sywddogol, yn bwrw golwg arnom, yn ffurfio eu barn am danom, ac yn cymryd arnynt ddeall pob peth am ein rhif, ein moesau, ein crefydd, a’n ffasiynau, ac yna heb wybod mwy am danom na’r trwch daear am yr haul, a ddychwelant gan wneud eu storiau, a llunio y chwedlau mwyaf rhyfedd, digirf, a di-sail.

Fel dwedais i, tydy rhai pethau byth yn newid.

Ta waeth, gobeithio bod y blas hyn wedi eich ysgogi i fynd i edrych am Y Traethodydd.  Dw i’n meddwl mai’r prif beth dw i’n drio ddweud o hyn i gyd ydy, yn lle gwastraffu amser ar Facebook (a Twitter), beth am i ni drio ail-afael yn y blogio a trin a thrafod pethau o bwys.

Cyhoeddwyd yn blogio, cyfryngau | 4 Sylw