Ers i mi ddod yn wleidyddol effro yn fy arddegau ar ddiwedd y 90au dwi wedi bod yn ymwybodol o broblem tai haf yng Nghymru, ond yn ystod y blynyddoedd diweddar, yn ogystal â’r broblem tai haf (ail dŷ rhywun) mae sôn cynyddol am dai gwyliau i’w gosod i ymwelwyr. Mae hefyd fel petai wedi dod yn fwy o broblem drefol hefyd yn lle jest rhywbeth cefn gwlad ac nid problem yng Nghymru yn unig yw hon chwaith wrth gwrs. Cwmni AirBnb yw’r cocyn hitio amlwg, ac yn haeddiannol mae’n siŵr, ond dim ond un cwmni/llwyfan ymysg llawer ydy hwnnw. Mae dinasoedd Amsterdam, London a Chaeredin, ymysg eraill, wedi cymryd camau i geisio reoli’r sefyllfa drwy drwyddedu.
“Chwarae fy rhan”
Ers cael plant, rydym wedi bod ar wyliau lle rydym wedi llogi tŷ, dau haf yn olynol yn yr un lle yng Nghei Bach, Ceredigion (a ddysgais wedyn oedd yn eiddo i rywun o Bromsgrove), un arall ger traeth Penbryn, Ceredigion (eto perchennog absennol, ddim yn siŵr o ble) ac un yn Bamburgh, Northumberland (cwpl o Newcastle oedd yn berchen arno, a daethant i’n cwrdd). Mae pentref Bamburgh yn hynod dlws ac yn amlwg wedi troi’n ddim mwy na phentref gwyliau ers tro, ond roedd y tŷ arhosom ni ynddo ond newydd ei droi’i dŷ gwyliau, ac roedd yn hen dŷ cyngor ar ystâd fechan o dai a oedd, yn ôl ymddangosiad y gerddi, y preswylwyr a’r cerbydau (faniau gweithwyr) fel petai’n holdout olaf trigolion cynhenid y pentref.
Datrysiadau posib
Dwi’n tueddu gorfeddwl pethau a theimlo’n euog am bob dim, ond allwn i ddim peidio â theimlo mod i’n rhan o’r broblem–os ydw i ac eraill yn mynnu gallu byw home-from-home bob tro dwi’n mynd ffwrdd am wythnos, mae’r cartref hwnnw’n gorfod dod o rhywle. Felly, er tipyn o fraw i weddill y teulu, dwi wedi penderfynu na fyddwn o hyn ymlaen yn aros mewn llety gwyliau a fyddai’n gwneud cartref i gwpl neu deulu ifanc, a gwell fyth os yw’r elw neu ran ohono’n mynd i’r gymuned leol. Soniais am AirBnB yn gynharach, ac roeddwn eisoes wedi dod ar draws gwefan Fairbnb.coop, rhyw fath o wrthgyferbyniad iddo. Dyma eglurhad bras o’r wefan:
Fairbnb.coop gives both travellers and locals the opportunity to participate in a more responsible and sustainable tourism model by supporting social and ecological projects for the local communities.
(Noder, mae yna hefyd fairbnb.org.uk, sy’n rhywbeth gwahanol eto. Er mae’n digwydd bod yn gysylltiedig mewn ffordd, gan ei fod yn ymwneud â chynorthwyo pobl ddigartref neu mewn perygl o fod yn ddigartref, yn Llundain yn bennaf, drwy gynnig ystafell neu le hunanddarpar am gyfnod penodedig, nid yn anhebyg i Gynllun Lesio Cymru gan Lywodraeth Cymru)
Efallai gellir dadlau bod Fairbnb yn fodd i bobl sy’n gosod eiddo deimlo ychydig llai euog am y peth, ond dwi’n meddwl na allwch osod, neu hysbysebu o leiaf, mwy nag un eiddo arno (ddim yn addas i James felly, sy’n gosod 19 tŷ/fflat ym Merthyr Tudful ar AirBnB), ac mae pob perchennog yn ymrwymo i roi cyfran o’r tâl a godir at achos da lleol. Hyd yma, yn Ewrop cyfandirol mae’r mwyafrif o’r eiddo, ond roedd erthygl ar Cymru Fyw yn ddiweddar, Ai Fairbnb yw’r ateb i broblemau ‘gor-dwristiaeth’?, a nododd bod tri llety o Gymru arno.
Gor-dwristiaeth sbardunodd grŵp o Venice yn yr Eidal i greu menter gydweithredol o’r enw Fairbnb, gyda’r nod o wneud twristiaeth yn fwy cynaliadwy.
Fel y mwyafrif o blatfformau rhentu gwyliau, mae Fairbnb yn cymryd comisiwn, ond mae hanner yr arian yn mynd i brosiectau cymunedol.
Mae disgwyl hefyd i’r perchnogion fyw yn yr ardal, a rhentu allan dim ond un llety, gyda’r gymuned leol yn cael dweud eu dweud ar ba mor briodol yw’r lle.
Erbyn hyn mae ‘na dri llety gwyliau cynaliadwy yng Nghymru, sydd mewn partneriaeth efo Fairbnb.
Un o’r rheiny ydy Llety Arall yng Nghaernarfon.
Rhestr o lefydd aros yng Nghymru yn nwylo’r gymuned.
Mi rydw innau wedi bod yn llunio rhestr ar fy nghyfrif pinboard.in o lefydd aros yng Nghymru sydd, mewn amrywiol ffyrdd, yn nwylo’r gymuned (https://pinboard.in/u:rhys/t:co-op/t:llety). Fe sylwch fy mod i’n defnyddio’r tag ‘co-op’, ond mae’r llefydd yn amrywio o fentrau cymunedol cydweithredol gwirioneddol fel Llety Arall a Thafan yr Heliwr, Nefyn, i lefydd sy’n rhan o ymddiriedolaeth/elusen (fel Gerddi Aberglasney a Chastell Aberteifi), i hyd yn oed gwesty a gafodd ei adeiladu ac sy’n cael ei redeg gan awdurdod lleol, sef Caban ym Mhentywyn, Sir Gâr, lle bues i a’r teulu’n aros yr wythnos diwethaf ac y buaswn yn ei argymell. Dydw i ddim wedi cynnwys eto llefydd ar osod gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, y Landmark Trust a’r YHA a’u tebyg. Dwi’n croesawu unrhyw sylwadau neu awgrymiadau am y llefydd dwi wedi’u rhestru neu y dylwn eu rhestru. Dylwn hefyd nodi nad ydyw i wedi aros ymhob un lle chwaith.
Os ydych yn edrych ar y rhestr ar gyfrifiadur pen ddesg yn hytrach nag ar ffôn glyfar, yna dylech allu gweld y cwmwl tagiau uchod, ac felly gallwch chwilio’n fanylach fesul sir (Ceredigion, Gwynedd a Sir Gaerfyrddin yn unig ar hyn o bryd) drwy glicio ar y symbol croes ⊕ wedi’r tag , neu fesul math o lety (GaB, gwesty neu hunanddarpar). Mae’r tag ‘GwyliauCymreag‘ yn dynodi bod gwasanaeth Cymraeg ar gael. Mae’r mwyafrif ar y rhestr yn fentrau Cymraeg beth bynnag, ac yng Ngwynedd, sydd naill a’i arwyddocaol, neu’n dangos nad ydw i wedi ymchwilio’n ddigon trylwyr. Gyda llaw, o ddewis y tag ‘GwyliauCymraeg’ yn unig (https://pinboard.in/u:rhys/t:GwyliauCymraeg) fe welwch restr fwy sydd hefyd yn cynnwys busnesau preifat, ond mae hynny’n destun cofnod blog arall rhywbryd!