@rhysw1 Efallai byddi di'n gwybod beth yw'r dafarn orau yn Ninbych sydd yn agos i'r maes eleni? #steddfod2013
— Carl Morris ☺☻ (@carlmorris) July 4, 2013
Dw i wastad wedi meddwl byddai’n wych cael adolygiadau John Rowlands-aidd (sy’n adolygu llefydd bwyta) o lefydd yfed bro’r Eisteddfod, ond dw i’n ofni Carl nad y nid fi yw’r dyn gorau ar gyfer Dinbych gan nad ydw i wedi bod ar y piss yn ei hamryw dafarndai ers degawd a mwy. Ond mi roddaf dro arni ta beth…
I ddechrau mae digonedd o ddewis o ran nifer, ond falle sdim lot o amrywiaeth. I feddwl bod hi’n reit tawel yn y dre ar benwythnos arferol erbyn hyn, mond un dafarn sy wedi cau ers i mi ddechrau fy ngyrfa yfed yn fy arddegau.
Mae beth sy’n gwneud tafarn dda yn wahanol i bawb, y peth pwysica i rai yw ble ceir y peint rhata o Carling, neu fel fi, ble sy’n gwerthu cwrw go iawn. Fel tref sy’n gyfoethog yn ei hadeiladau hanesyddol, mae gan lawer o’r tafarndai nodweddion pensaernïol arbennig a hanes lliwgar*.
Ok, digon o falu awyr, dyma ychydig am y tafarndai (NODYN: Gwerthfawrogaf unrhyw gywiriadau yn y blwch sylwadau isod.)
Ddim cweit yn y dref, ond ar gyrion y dref ar ochr y ffordd i Rhuthun. Dyma’r dafarn agosaf i’r Maes. Mae’n le mawr, ond dw i ddim yn siwr os mai tafarn gyda lle bwyta ydy o, neu le bwyta gyda bar mawr. Ta waeth, tro diwethaf roeddwn yn, roedd y bwyd yn dda iawn ac roedd cwrw Bragdy Conwy ar y pwmp.
- Y Railway (cornel Ffordd Rhuthun/ Ffordd y Rhyl)
Y dafarn ail agosaf at y Maes. Rioed wedi bod i’r dafarn hon, gan ei bod hi (fel Y Masons) ar waelod Stryd y Dyffryn, a llawer rhy bell o weddill tafarndai “top dre” ble byddai’r meddwyns nos Sadwrn. Yn ôl y sôn mae’n dafarn neis, llawn stafelloedd bychain ac mae’n gwerthu cwrw go iawn (mae yn fy nghopi o’r Good Beer Guide 2009).
Y Masons (Ffordd Y Rhyl)
Rownd y gornel o’r Railway. Mae llawer o Gymry’r dref dw i’n nabod yn mynd i’r dafarn yma i wylio pêl-droed a rygbi. Unwaith bues i yno, a doedd dim dewis da o gwrw pryd hynny.
Mae Nia nodi’r canlynol yn y blwch sylwadau:
Mae’r Masons wedi ei beintio run lliw a’r pafiliwn…gwerth ymweliad, un o landlordiaid gorau’r dref! A brechdanau am ddim fel arfer ar nos sadwrn!
Mae Alun (y landlord) yn nodi’r canlynol yn y blwch sylwadau:
Os da chi o gwmpas, dowch fewn am beint (cwrw lleol o Bragdai Henllan a Conwy) i’r tafarn piws !!
-
Plas Pigot (Ffordd Rhuthun)
Rhyw fath o social club. Gwneud lot o bethau yn ymwneud gyda’r Fyddin. Os yw ar agor i’r cyhoed dyn ystod y Steddfod a ch’in cael eich temptio, cofiwch tydy’r Railway ond rhyw ganllath i ffwrdd.
-
Gobaith ac Angor/Hope & Anchor (Stryd y Dyffryn)
Tafarn reit neis, hanner ffordd fyny Stryd y Dyffryn (gyferbyn â Lidl). Y locals wedi dechrau bragu cwrw eu hunain, ac wedi gwneud un arbennig ar gyfer y Steddfod o’r enw ‘Sion y Bodiau’.
-
Kings Arms (Stryd y Dyffryn)
Y dafarn gyntaf y dewch ar ei thraws wrth gyrraedd y stryd fawr. Unwaith fues yno, ar roedd y lle’n wag ac yn reit blêr. Newid ei adnewyddu a newid perchenog ers hynny.
- Y Guildhall
(tu cefn i’r llyfrgell, sy’n werth mynd iddo ar gyfer yr amgueddfa)
Yng nghefn y dafarn yma bydd gigs y Gymdeithas. Y Bull oedd enw fan’ma pan o’n i yn y lle ddiwetha. O edrych ar eu gwefan mae’r lle wedi ei drawsnewid yn llwyr. Mae sawl cwrw go iawn ar gael mae’n ymddengys.
- Old Vaults
(Stryd Fawr)
Tafarn OK. Dim byd arbennig.
- Eagles (Back Row)
Fan hyn oedd y dafarn orau am awyrgylch ers talwm. Wedi ei hadnewyddu ers y bues yno ddiwetha ac wedi newid dwylo ambell waith. Drws nesaf ond un i neuadd y dref ble mae gigs Cymdeihtas hefyd.
- White Lion (Back Row)
Tafarn OK, reit dawel. Bach os cofiaf yn iawn.
- Y Llew Aur(Back Row)
Tafarn OK, arfer mynd yma dipyn. Bach yn rough ar adegau ar nos Sadwrn.
- Plough (Bridge Street, ger Pwll y Grawys)
Tafarn OK, roedd bwrdd pool yma os cofiaf yn iawn – cyfleus rhwng dwy siop kebab!
- Hand (Pwll y Grawys)
Rioed wedi bod i’r dafarn hon, gan mod i wastad wedi meddwl bod hi’n edrych yn rough, ond ymddengys bod hi yn y Good Beer Guide 2009 (er Jennings oedd y cwrw ar werth bryd hynny)
- ‘Y Brit’/Britannia Inn (Love Lane)
Er gwaetha’r enw, Cenedlaetholwyr Cymreig di-Gymraeg oedd yn rhedeg y lle. Sut gafodd y lle yma ddim ei gau lawr dw i ddim yn gwybod achos dyma oedd meithrinfa yfwrs ifanc Dinbych a’r cylch. Os oedd rhywun dros ddeunaw oed yn yfed yno, rhaid bod nhw’n bedoffeil neu wedi eu gwahardd o weddill tafarndai’r dre. Ewch draw i brofi’r awyrgylch.
- Tu hwnt i’r dref
Mae sawl tafarn dda yng nghefn gwlad gerllaw. Dyna gasgliad. Llandyrnog ydy’r pentre agosaf i’r Steddfod dw i’n meddwl, ac mae lot yn canmol y White Horse yno.
View Tafarndai Dinbych in a larger map
Mae’r Masons wedi ei beintio run lliw a’r pafiliwn…gwerth ymweliad, un o landlordiaid gorau’r dref! A brechdanau am ddim fel arfer ar nos sadwrn!
Diolch am y sylw Nia, dw i am ei gynnwys at y cofnod.
Chwilio ydw i am leoliad ar gyfer cyfarfod. Felly diolch o galon!
Blogio ar ei orau Rhys. Dyla Steddfod anfon dolen draw at hwn o’u gwefan! Ges i sesh yn Dimbach rhai blynyddoedd nôl ond dwi’n cofio fawr ddim!
Newydd ffeindio hwn o 2001 : http://www.bbc.co.uk/cymru/dinbych2001/dinglyn.shtml sydd hefyd yn sôn am dafarndai a chydig o hanes y dre. Gawd bless archif we BBC Cymru!
Newydd ddod ar draws eich sgwrs ynglyn a’r tafarnau yn Nymbych adeg yr Eisteddfod. Meddwl buaswn yn gyrru ebost cyflym i adael i chi wybod bo gennym tudalen ar facebook i’r Masons Arms yn Dinbych – “Masons Arms Denbigh”. Os da chi o gwmpas, dowch fewn am beint (cwrw lleol o Bragdai Henllan a Conwy) i’r tafarn piws !! 🙂 Da ni ar newyddion S4C nos fory hefyd. Os da chi angen fwy o wybodaeth, gadewch neges ar ein tudalen.
Diolch
Alun
Diolch am adael sylw Alun, dw i wedi rhoi dolen at eich tudalen Facebook yn y cofnod. Dw i’n hoff iawn o gwrw’r ddau fragdy yna, felly bydd rhaid dod draw am o leiaf dau beint 🙂