Plentyn siawns Bruce – Syniad ar gyfer gweithdy ymarferol yn Hacio’r Iaith 2014

Er nad yw’r trefniadau ar gyfer Hacio’r Iaith 2014 wedi eu cadarnhau eto (SPOILER: mae’n bur debyg mai nid yn Aberystwyth fydd o am y tro cyntaf!), hoffwn gynnig y canlynol fel syniad ar gyfer sesiwn ymarferol.

Y CEFNDIR

Ers i mi argymell i’m dysgwyr y dylent fuddsoddi mewn copi o Eiriadur yr Academi (cyn iddo fod ar gael ar-lein), dw i’n cael fy atgoffa bob hyn a hyn o’i gyfyngiadau.

 

 

Fe welwch yn ddyddiol bron pobl yn holi ar Twitter am gyfieithiad am hwn neu’r llall, unai am eiriau nad oedd hyd oed yn bodoli (mewn unrhyw iaith) pan luniwyd Geiriadur yr Academi yn y 1990au, neu fel dw i’n ddarganfod yn aml, mae’n cynnig sawl peth am air Saesneg sydd a mwy nag un ystyr, mond bod sawl ystyr arall sydd heb eu cynnwys.

Gan mod i’n gwneud cryn ddefnydd o’r hen eiriadur yn fy ngwaith bob dydd, mae’r diffygion hyn wedi gwneud i mi feddwl am rhyw ‘system’ i ffurfioli’r broses o geisio cymorth eraill am gyfieithiadau, eu cofnodi ac i gofnodi’r cynnigion a gafwyd. Byddai’r wybodaeth yma hefyd o ddefnydd fel man cychwyn petai diweddariad o’r geiriadur yn cael ei gomisiynu yn y dyfodol.

Digon am y cefndir, ac ymlaen at y syniad. Dylwn nodi’n gyntaf nad ydy fy sgiliau technoleg gwybodaeth yn ymestyn fawr pellach na gallu newid lliw ffont gyda HTML, felly disgwyl i eraill wneud y gwaith ydw i! Mae gennyf syniad gweddol o beth sy’n bosib ei wneud, dw i jest ddim yn gwybod sut mae gwneud.

Y SYNIAD

CAM 1 – Cais am air
Defnyddio GoogleDocs i creu ffurflen (form) ble mae pobl yn creu cais am air, ac yn nodi brawddeg(au) Saesneg enghreifftiol yn cynnwys y gair.

CAM 2 – Cynnig gair
Mae’r Ffurflen Google Docs yma’n bwydo i mewn i Daenlen GoogleDocs, sy’n agored i bawb ei weld (fel sy’n cael ei wneud yma). Dyma ble bydd pobl yn gallu cynnig bathiad Cymraeg. Efallai ar y dechrau mewn ffordd mor elfennol a llenwi colofn ar y daenlen, er yn ddelfyrdol bydd yn well na hyn yn weledol.

CAM 3 – Pleidleisio ar gynnigion

Dyma’r bit tricky, mae angen system ble mae posib i bobl eraill bleidleisio dros y cynnig gorau. Yn ol beth dw i’n ddeall, mae gan Daenlen Google Docs API, ac mae modd mewnforio ac allforio RSS ar gyfer pob math o ddibenion. O bosib byddai modd defnyddio’r RSS hyn a rhyw ategyn WordPress i greu rhyngwyneb gorffenedig deniadol ac sy’n gweithio gydag ategyn pleidleisio WordPress?

Neu ydw i’n siarad shit?

Cafod y cofnod ei gyhoeddi yn Hacio'r Iaith, Iaith a'i dagio yn , . Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.