Pam, dwi ddim yn gwybod, ond rhai blynyddoedd ôl rhoddais enw Dad i mewn i beiriant chwilio Google, a beth ddois ar ei draws oedd teyrnged ganddo i Tomi Jones, cyn-gymydog a rhywun, ynghyd â’i wraig Kitty, fu’n gofalu tipyn am Dad pan oedd yn blentyn oherwydd salwch Nain.
Dwy flynedd union i heddiw roedd tîm pêl-droed dynion Cymru yn chwarae gêm ail-gyfle bwysig, gyda’r nod o gyrraedd Ewro 2024. Heno, mae gêm ail-gyfle bwysig arall ganddynt, y tro yma er mwyn cyrraedd Cwpan y Byd yr haf yma. Mae’n ddwy flynedd union hefyd i’r diwrnod y bu Dad farw hefyd, a meddyliais ei bod yn hen bryd i’r deyrnged teilwng a roddodd ei frawd, Rolant, iddo gael lle ar-lein hefyd.
Meirion Wynne (1944-2024)
Dwi am sôn am Meirion drwy lygad y brawd bach achos mae pob atgof sydd gen i ohono yn dweud rhywbeth am ei gymeriad arbennig. Mae Rhys a Meinir hefyd wedi cyfrannu rhai atgofion. Mae’r stori yn cychwyn tipyn cyn i mi gael fy ngeni – a hynny ar 12 Awst 1944 yn Ysbyty y Bermo ym Meirionnydd, sy’n egluro pam y cafodd o yr enw Meirion. Fo oedd plentyn cyntaf ein rhieni, Emyr ac Eluned Wynne. Fferm Bron y Foel Isa yn Nyffryn Ardudwy oedd y cartref bryd hynny, ac i’r aelwyd honno y croesawyd Meinir hefyd maes o law. Fydd o ddim yn syndod i chi dwi’n siwr os y dwedai bod Mam yn dweud mai Meirion oedd y mwyaf swil o’r ddau o’r cychwyn!
Yn nechrau’r 50au fe brynodd fy rhieni fferm Hafodty a symud yma i Lannefydd yn deulu o bedwar. Yn yr Eglwys yma y priododd ein hen, hen Nain a’n hen Nain. Felly roedd cysylltiadau amlwg rhwng y teulu a Llannefydd cyn hyn. Pan ddaeth Meirion a Meinir i’r dosbarth babanod yn hen ysgol gynradd Llannefydd– sydd ar y ffordd allan o’r pentref am Henllan – go brin bod Meirion yn sylweddoli y byddai’r ferch oedd yn yr un dosbarth ag o – ac yn byw yn Nhan yr Onnen ar draws y ffordd i’r ysgol – yn dod yn wraig a chymar oes iddo maes o law.
Fe ddigwyddodd sawl peth hanesyddol yn 1953, ond o ran Meirion a Meinir agor yr ysgol gynradd newydd yn Llannefydd oedd y digwyddiad pwysicaf yn eu bywyd neu efallai genedigaeth eu brawd bach! Llofft hir, gul oedd ein llofft ni yn Hafodty, a’n dau wely sengl draed wrth draed ar hyd un wal. Un o’r atgofion cyntaf sydd gen i ydy bod yn oer yn y gwely ac yn dweud: “Meirion dwi’n oer”, ac yntau yn dweud: “Tyrd yma ata i”. Minnau yn teimlo fy ffordd efo’r wal dros y ddau ben gwely gan ddeffro y bore wedyn yn gynnes glyd a Meirion a Meinir wedi hen gychwyn ar eu beics i ddal y bws i’r Ysgol Ramadeg yn Ninbych. Pan ofynnais i Meirion fod yn was priodas i mi roeddwn i’n gwybod yn iawn y byddai’n rhaid iddo gael manteisio ar y cyfle i ddweud wrth bawb person mor rhynllyd oeddwn i yn y gwely!
Fel y brawd mawr mae Meirion wedi edrych ar ôl Meinir a minnau ar hyd y blynyddoedd. Pan oeddwn i ychydig yn hŷn dwi’n cofio mynd ar nosweithiau Sul i ddanfon Meirion yn ôl i Goleg Llysfasi lle roedd o’n fyfyriwr llawn amser. Roedd hostel newydd yno a phawb yn sylwi ar pa mor lân a thaclus oedd llofft Meirion o gymharu â phawb arall – roedd taclusrwydd wedi bod yn ail natur iddo erioed.
Ar ôl cwblhau’r cwrs fe ddaeth o adre i weithio gan odro i Mr Owen y Bwlch a chneifio efo Eifion Tŷ Ucha. Os mai dim ond y ddau ohonom oedd adre, yr un fyddai’r ‘menu’ bob tro rhag gwastraffu amser yn coginio – sef beans ar dost ac wedyn y ddau ohonom yn mynd i’r pantri i chwilio lle oedd Mam wedi cuddio gweddill y gacen Nadolig!Sawl tro ar hyd y blynyddoedd mae Carys wedi gofyn i mi “Sut oeddet ti’n gwybod sut i wneud hynna?”, a minnau yn ateb – “Gweld Meirion yn gwneud”.
Daeth Rhys yn ymwybodol yn gynnar iawn fod ei Dad yn fedrus efo’i ddwylo gan iddo adeiladu sawl tegan iddo, gan gynnwys hwyaden ar olwynion yn gallai eistedd arni; a fferm o faint sylweddol efo darnau yn symud. Dros y blynyddoedd fe wnaeth sawl dodrefnyn mewn dosbarth nos gwaith coed ac yn fwy diweddar bu’n mynd i’r dosbarth gwneud ffyn ym Merllyn.
Mae yna lun gen i o aelodau Clwb Ffermwyr Ifanc Llannefydd sydd wedi ei dynnu y tu allan i’r neuadd, a oedd yn newydd ar y pryd. Meirion oedd y cadeirydd a Meinir yr ysgrifennydd; mae yna sawl tlws yn y llun. Dwi’n cofio Meirion yn dysgu rhan y tenor ar gyfer y pedwarawd llwyddiannus ac mae o wedi canu mewn sawl parti a chôr dros y blynyddoedd.
Fe fyddai Meirion yn amlach na pheidio yn egluro pethau efo pensel a phapur – a hynny ar gefn hen amlen yn aml. Map sydyn o sut i fynd i rhywle, braslun o sut fyddai adeilad yn edrych o’i godi, neu coeden deulu i ddangos sut oedd pobl yn perthyn i’w gilydd o fewn y teulu. Treuliodd Alys a Mali sawl awr felys yn chwarae gemau cardiau ac yn arbennig Pictionary efo Taid. Roedd yn gyfle iddo ddangos ei sgiliau darlunio iddyn nhw – er nad oedd ei ddehongliad o ystyr rhai o’r geiriau ar y cardiau ddim r’un fath â rhai pawb arall bob tro!
Rhyw flwyddyn neu ddwy ar ôl gadael Llysfasi fe berswadiwyd Meirion i ymgeisio am swydd efo’r Weinyddiaeth Amaeth a bu’n llwyddiannus. Roedd ei swydd gyntaf yn Llandrindod Wells.
Adre yn Hafodty roedden ni wastad yn eistedd yn yr un drefn wrth y bwrdd bwyd, a fi yn y canol rhwng Meirion a Meinir. Roedd Meirion yn dathlu ei benblwydd yn 21 oed a Mam yn dweud bod yn rhaid i mi symud i fyny un – a dyna groesawu Gwenda i’r teulu. Mehefin 7fed 1969 oedd diwrnod eu priodas yng Nhapel y Bedwyddwyr, Llansannan. Dwi’n cofio ei fod o’n ddiwrnod godidog o braf – y dechrau perffaith i bartneriaeth arbennig. Dwi’n cofio bod Mam wedi penderfynu bod yn well i mi shafio i’r achlysur ac wedi prynu peiriant trydan i mi. Meirion wedyn yn dangos i mi sut i’w ddefnyddio a minnau yn teimlo’n llanc o gael tipyn o’i Old Spice aftershave. Ychydig wythnosau yn ôl gofynnodd Gwenda i mi nôl blades newydd i Meirion a minnau yn ei bryfocio y byddai wedi bod yn rhatach iddo dyfu barf fel ei frawd bach.
Ar ôl priodi fe aeth Meirion a Gwenda i fyw ar gyrion y Drenewydd ond yn fuan wedyn yn prynu tŷ ar stâd newydd yn Gegidfa ger y Trallwng. Roedd yr ardd yn serth, yn gerrig a rwbel i gyd, ond fe aeth Meirion ati i gynllunio gardd ar sawl lefel. Pan oedden nhw’n gadael roedd hi’n ardd drefnus, gynhyrchiol a gwerth ei gweld.Er i Meirion a Gwenda symud i Brion ymhen amser, mae Mwynder Maldwyn wedi aros yn agos at eu calonnau a llawer o atgofion gwerthfawr ganddynt o ddiwylliant cyfoethog cefn gwald y sir a chwmnïaeth hyfryd y trigolion.
Er nad oedd gan Meirion lot i’w ddweud wrth bêl droed, roedd yn sylweddoli bod Rhys yn dechrau gwirioni ar y gamp wrth iddo agosáu at ei arddegau ac aeth â fo un prynhawn Sadwrn i’r Cae Râs i weld ei gêm gartref gyntaf, a hynny yn erbyn York City. Dydy Rhys ddim yn cofio’r canlyniad, er bod o’n amau mai Wrecsam oedd yn fuddugol, ond roedd iaith gref y bobl oedd yn eistedd o’u cwmpas wedi creu cryn argraff arnynt – bu’n rhaid i Rhys fynd i wylio Wrecsam ar ei ben ei hun ar ôl hynny.
Bu cael dod yn Daid a Nain yn bleser pur i Meirion a Gwenda ac roedden nhw yn mwynhau mynd i lawr i Gaerdydd – yn aml ar y trên – i dreulio amser efo Rhys, Sarah a’r gennod. Mae’n gysur meddwl bod Alys a Mali yn ddigon hen i gofio Taid a’r profiadau arbennig a gawsant yn ei gwmni. Roedd cael mynd am dro yn y Land Rover ar gaeau serth Hafodty yn dipyn o antur i Alys a Mali o gymharu â theithio ar strydoedd fflat Treganna.
Dros nifer o flynyddoedd bu Guto – ein mab – yn mynd ar bererindod wyna i Prion, ac mae ei ddyled yn fawr iddyn nhw. Dydy o ddim syndod felly mae milfeddyg defaid ydy o, o ran arbenigedd erbyn hyn.Saith mlynedd yn ôl fe symudodd Meirion a Gwenda i Ddinbych gan synnu eu hunain a phawb wrth setlo mor sydyn. Ond efallai nad ydy hynny yn syndod chwaith, oherwydd roedd y ddau yn dal yr un mor brysur yn gymdeithasol: roedden nhw’n dal i fynychu’r capel a’i weithgareddau; roedden nhw’n mynd i gyngherddau, dramâu ac eisteddfodau; roedd ymweld â Sioe yn Llanelwedd a Sioe Sir Feirionnydd yn uchafbwyntiau’r flwyddyn, yn arbennig o ran cwrdd â hen ffrindiau; mae boreau Coffi y Groes a’r sesiynau canu yn Llanrhaeadr yn amlwg ar eu calendr. Hefyd roedd Meirion yn mwynhau: mynd i chwarae whist; mynychu sesiynau cyfrifiaduron yn HWB; ac roedd yr ocsiwn yn Rhuthun yn dal i ddenu. Byddai yn aml yn dacsi i gludo eraill i’r gweithgareddau hyn.
Er nad oedd o’n ddyn cyhoeddus roedd o’n rhoi pwysigrwydd mawr ar wasanaethu ei gymuned, fe fu: yn llywodraethwr yn yr ysgol gynradd; yn brysur iawn efo Grŵp Bro Mariel o’r ATB; yn gadeirydd pwyllgor Melinau Gwynt Tir Mostyn. Roedd cydraddoldeb a chwarae teg yn greiddiol i’w ffordd o weithio, ac fu o a Gwenda yn gwirfoddoli am flynyddoedd yn siop Urdd Cyfeillion Ysbyty Glan Clwyd. Derbyniodd fedal hefyd am roi dros 70 peint o waed. Roedd o hefyd yn un da am ymweld â phobl i sgwrsio a chadw cwmni gan fynd â thomatos o’i dŷ gwydr pan roedd rheiny yn eu tymor.
Roedd bob amser yn barod i helpu, gan hyd yn oed fynd â’i boiler suit efo fo i Efrog jest rhag ofn bod angen gwneud unrhyw dasgau yng ngardd rhieni Sarah cyn pryd bwyd priodas Rhys a Sarah – oedd yn cael ei gynnal mewn pabell yno yn nes ymlaen yn y dydd. Ar adegau byddai’n annog eraill i helpu. Un tro yng Nghaerdydd gofynnodd myfyrwraig o dramor iddo am gyfarwyddiadau i neuadd breswyl. Allai o ddim ei helpu ond holodd rhywun oedd yn mynd heibio ar ei rhan. “I haven’t got time” meddai hwnnw, a dyma Meirion yn ateb, “Oh, I think you have got time”. A wir i chi, mi oedd gan y dyn hwnnw amser wedi’r cyfan!
Mae sawl un wedi cyfeirio at ei hiwmor sych yr wythnosau diwethaf. Roedd o hyd yn oed yn ddiweddar wedi recordio ambell gwestiwn doniol ar ei beiriant recordio llais i dynnu coes Meinir a Carys.Y diwrnod y priododd Iwan a Menna fe gyrhaeddodd Meirion Llanbrynmair a chanfod bod siaced ei siwt yn dal ar y gwely adre. Yn ffodus roedd hi’n ddiwrnod poeth a phawb o’r dynion yn llewys eu crys fel na sylwodd fawr neb. Yn fuan wedyn fe welodd Siôn y mab siaced goch lachar mewn siop elusen yng Nghaernarfon a’i phrynu yn anrheg Nadolig i bryfocio Meirion. Pan oedd yna dynnu lluniau ym mhriodas Siôn ac Elin ymhen amser fe newidiodd Meirion ar ôl y seremoni o siaced ei siwt i’r siaced goch a dyna sydd yn llun teulu Siôn yn yr albwm priodas – Meirion yn y gôt goch a gwên ddireidus ar ei wyneb.
Anaml y gwelech chi Meirion heb ei gap – i gadw’n gynnes yn y gaeaf ac i gadw’r haul draw yn yr haf. Wel, Meirion, dwi’n tynnu fy nghap i ti am wynebu dy salwch mileinig efo’r fath urddas a dyfalbarhad. Mae 15 Medi 2023 yn ddyddiad na anghofia i byth. Y diwrnod y dywedodd o wrtha bod o wedi cael diagnosis o Motor Neuron. Roeddwn i wedi fy llorio a dim syniad beth i’w ddweud na sut i’w gysuro. Dros y misoedd a’r wythnosau diwethaf yr hyn sydd wedi ei boeni fwy na dim oedd y gwaith ychwanegol roedd o’n ei roi i Gwenda. Poeni am eraill ac nid fo ei hun. Roedd o’n mynnu bod mor annibynnol ag y gallai ac yn dal i gadw ei ddyddiadur tan yr wythnos olaf.Yn ei gofnod olaf yn yr Ysbyty mae’n diolch i bawb, yn diolch i Gwenda a Rhys am bob dim ac yn dymuno’r gorau i’r gennod oedd yn gannwyll ei lygaid.
A dwi innau am orffen fel y dechreuais i efo gair o ddiolch. Diolch i Meirion am edrych ar ein holau ni a bod yn esiampl i ni i gyd. Braint i Meinir a minnau oedd dy gael yn frawd mawr Meirion. Cwsg yn dawel ‘rhen ffrind.