Dysgwyr Cymraeg yn creu cynnwys ar gyfer y Wicipedia

Yng nghynhadledd EduWiki (prosiectau addysgol Wikipedia) a gynhaliwyd yng Nghaerdydd mis Tachwedd, dyma un o’r mynychwyr yn trydar:

Dyma Rhodri ap Dyfrig wedyn yn sgwennu’r canlynol mewn cofnod ar ei flog am ddysgu ieithoedd:

Fyddai hi ddim yn wych, petasai pob person sy’n dysgu Cymraeg trwy efallai Cymraeg i Oedolion, ac sydd wedi cyrraedd safon lle gallant wneud cyfieithu syml, yn cyfrannu tuag at gyfieithu tudalennau Wikipedia i’r Gymraeg? Mwy o erthyglau Wikipedia Cymraeg = mwy o adnoddau dysgu = mwy o flaenoriaeth i’r Gymraeg gan gwmniau fel Google ac ati  = gwell sefyllfa i’r Gymraeg yn ehangach.

Mae hyn yn rhywbeth dwi wedi bod yn ei ystyried ers tipyn hefyd, felly yn ystod y gwyliau Nadolig, dyma osod gwaith cartref i ddysgwyr fy nosbarth Cymraeg i Oedolion, sef creu/cyfieithu erthygl fer ar gyfer y Wicipedia Cymraeg. Roedd hyn yn dasg go heriol i ddosbarth lefel Canolradd, ond ro’n i’n hyderus o’u gallu.

Sut aethpwyd ati?
Soniais am y dasg rhai wythnosau cyn y Nadolig fel bod ganddynt ddigon o rybudd. Yn gyntaf gofynnais iddynt edrych ar y Wicipedia Cymraeg – doedd pob un ddim yn ymwybodol o’i fodolaeth, heb sôn am y ffaith bod dros 50,000 o erthyglau yno – a gweld lle oedd yna fylchau. Awgrymais mai erthygl am berson neu le fyddai orau gan y byddai modd defnyddio patrymau roeddynt eisoes wedi’u dysgu fel y gorffennol cryno. Cynigais eu bod yn sgwennu am eu hoff awdur, rhywun ym myd y campau, neu actor.

Y broses
Er y baswn i’n hoffi gweld pob un o’m dysgwyr yn mentro a golygu’r Wicipedia eu hunain yn y dyfodol, wedi cofrestru i ddysgu Cymraeg oeddynt, nid dysgu sut i olygu gwyddoniadur ar-lein, felly dwedais wrthynt am e-bostio eu herthyglau ataf ac yna byddwn i’n eu gosod ar y Wicipedia.

Yn y wers olaf cyn y toriad dros gyfnod y Nadolig dyma fi’n gofyn i bawb a oeddynt wedi penderfynu am beth/pwy oeddynt am sgwennu. Ac eithrio un oedd am sgwennu am bentref, roedd pawb arall am sgwennu am aelodau o’u teulu. “O na!” meddyliais, “Sut ydw i am ddweud wrthynt mewn ffordd neis na fydd erthygl am Ewythr Dic, Modryb Nel a Smot y ci yn dderbyniol ar Wicipedia?” Doedd dim rhaid i mi boeni gan fod gan bawb berthnasau adnabyddus, sef Jonah Jones (cerflunydd), Ron Stitfall (pêl-droediwr rhyngwladol), Pat McIntosh (nofelydd) a Paul Badham (academydd a diwinydd).

Marcio a Chyhoeddi (neu Cyhoeddi a Marcio yn yr achos yma!)
Pan dderbyniais y darnau gwaith gan bob un unigolyn yn eu tro, ro’n i’n eu gosod ar y Wicipedia fel yr oeddynt, heb wneud unrhyw gywiriadau. Byddwn i wedyn yn golygu’r erthygl a chywiro’r iaith. Gan fod modd edrych ar hanes pob erthygl roedd y dysgwyr weld beth newidiais i.

Cliciwch i weld cywiriadau i erthyglau: Jonah JonesRon StitfallPat McIntoshPaul BadhamFfont-y-gari.

Beth nesaf?
Efallai hoffai tiwtoriaid eraill wneud rhywbeth tebyg, a falle bod mwy uchelgeisiol. Dwi’n bwriadu ysgrifennu ychydig o ganllawiau a syniadau pellach. Os oes gan rywun unrhyw syniadau hoffent eu rhannu neu gwestiwn i’w ofyn, gadewch sylw o dan y cofnod yma. Un syniad ydy cynnal digwyddiad golygu Wicipedia (byddai’n gwneud sesiwn dysgu anffurfiol gwych, yn arbennig mewn lleoliad fel amgueddfa e.e.), ac mae yna wirfoddolwyr brwd ar hyd a lled Cymru (a thu hwnt!) a fyddai’n fwy na bodlon dod draw i’ch cynorthwyo dwi’n siŵr.

Dolenni defnyddiol

(*Er y dylid gwneud pob ymdrech sicrhau bos popeth sy’n cael ei roi ar y Wicipedia yn gywir, yn ieithyddol a ffeithiol, ro’n i wedi sgwennu’r cywiriadau o flaen llaw ac yn eu gosod ar y wici o fewn munud neu ddau.)

 

Cafod y cofnod ei gyhoeddi yn Iaith, Wicipedia a'i dagio yn . Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *