Ydych chi wedi cael llond bol ar y ffaith bod bandiau Cymraeg yn rhy ddiog i hyrwyddo eu gigs ar maes-e a Curiad? Fi hefyd.
Tra’n gwglo am MySpace ffrind i’m gwraig a’i phartner (a gefnogodd Euros Childs mewn gig diweddar yn Efrog), des ar draws gwefan grüvr. O beth dw i’n ddeall (mae’r wefan bach yn anniben a does dim lot o gyfarwyddiadau) mae’n crafu MySpace am dyddiadau gigs. Yna mae’n eu plotio ar googlemap ac yn rhoi’r dewis i chi wneud amryw o bethau fel derbyn hysbysiad ebost/RSS pob tro bydd gig newydd gan fand rydych yn ei ddilyn ac mae hefyd modd chwilio am y tocyn rhataf ar gyfer y gig. Gallwch hefyd fewnosod map ar gyfer band ar eich gwefan neu ar gyfer ardal penodol (e.e. Caernarfon).
Just meddwl baswn i’n rhannu hyn gyda chi.
Bues i’n sbio am artistiad Cymraeg fel enghreiffftiau, ond mond Mr Huw oedd gyda ychydig o ddyddiadau gigs ar ei MySpace.
Ie, diddorol.. ond dyw e ddim yn arbennig o llwyddiannus yn fy marn i. O’n i wedi ystyried crafu digwyddiadau oddi ar wefannau MySpace ychydig flynyddoedd yn ôl (gan fod gen i restr faith o wefannau MySpace bandiau Cymraeg) ond doedd e ddim yn hawdd a roedd diffyg data mewn fformat call yn ei wneud e’n anodd.
O edrych eto nawr, mae’n bosib ei fod yn llawer haws gyda modiwl Digwyddiadau yn MySpace yn darparu RSS ac ati. Mi fyddai dal angen crafu gwybodaeth ar gyfer lleoliadau ond mi fyddai’n gam ymlaen.