Y Teimlad Cenedlaethol: Cymru a’i gyfoeswyr

Yr uchod yw teitl cyfrol mis Hydref 2010 or’ cylchgrawn Y Traethodydd, ac hefyd teitl erthygl oddi mewn iddo gan Lowri Angharad Hughes o Brifysgol Bangor. Y ‘Cymru’ a gyferir ato yw’r cofnodolyn Cymru a lansiwyd yn 1891 gan O. M. Edwards.  Mae’n erthygl diddorol tu hwnt, yn trafod nid yn unig Cymru, ond sawl chyhoeddiad arall Cymraeg, Cymreig a Saesneg a ddaeth i fodolaeth tua’r un adeg, beth oedd yr ysgogaeth tu cefn iddynt ynghyd a chyd-destyn y cyfnod a’r datblygiadau cyffrous ym myd cyhoeddi.

Dw i ddim yn gwybod os ydych yn gyfarwydd a’r gyfres Radio 4 o’r enw The Long View, sy’n dewis pwnc cyfoes ac yn edrych am enghreifftiau o sefyllfaeodd rhyfeddol o debyg yn y gorffenol, ond dyma’r erthygl yma’n gwneud i mi feddwl am sefyllfa’r Gymraeg heddiw a’r cyfleoedd ar gael drwy gyhoeddi ar-lein, er mwyn tynnu pobl a diddordebau tebyg at ei gilydd a gallu lledaenu a thrafod materion o bwys.

Mae’n werth darllen yr erthygl yn llawn (mae copi yn Llyfrgell Caerdydd), ond dw i am godi ambell ddyfyniad ohoni:

Mae’r gwelliant sydd wedi eu dwyn i  mewn i’r gelfyddyd o argraffu, ynghyd a rheilffyrdd, y llythyrdy, y telegraff, a gellill chwanegu haul-luniaeth, oll wedi dyfod i wasanaethu llenyddiaeth. Y wasg ydy gallu gwareiddiol cryfaf yng Nghymru heddyw [sic], yn gystal ag yn y deyrnas yn gyffredinol. Mae y cylchgronnau, papurau a’r llyfrau syd dyn cael eu tywallt o’r wasg Gymreig yn dylanwadu ar fywyd pobl Cymru i raddau anisgwyliadwy.

Mae’r dyfyniad yn tynnu sylw at gelfyddyd, argraffu, pwysigrwydd systemau cyfathrebu a gallu’r wasg i ddylanwadu. Amcan O. M. Edwards oedd sicrhau bod y Cymry ifanc (a hen) a oedd yn cael blas ar ysgrifau gwleidyddol o Loegr hefyd yn gallu darllen rhywbeth tebyg yn Cymraeg ac am Gymru, a thrwy hynny siapio ymwybyddiaeth newydd o Gymru, o fod yn Gymro a hyrwyddo syniadau cenedlaetholgar.

‘The Medium is the message’. Dyma oedd gan Aled Jones i’w ddweud yn ei astudiaeth ei hun:

there was a deliberate edge of hyperactivity of Welsh journalism in this formative period. their producers were evidently persuaded of the view that newspapers and journals were agents as well as symptoms of social change, and the press was overwhelmingly perceived as a medium which performed a structuring, rather than a merely reflecting role in the institutions and activities of public life.

Gwelwyd defnyddiau eraill i’r cyfrwng newydd yma hefyd. Dyma ddyfyniad o Y Diwygiwr yn 1847:

Cymru a’i thrigolion wedi dyfod rywfodd yn wrthrychau sylw cyffredinol. Daw Saeson fel gywbeb dros Glawdd Offa, ar lun Golygddon, Adroddwyr Papurau Newydd, DirprwywyrLlywodraeth, a rhyw fwnw o’r fath: gwelir y gweilch hyn, yn llawnder eu hurddas sywddogol, yn bwrw golwg arnom, yn ffurfio eu barn am danom, ac yn cymryd arnynt ddeall pob peth am ein rhif, ein moesau, ein crefydd, a’n ffasiynau, ac yna heb wybod mwy am danom na’r trwch daear am yr haul, a ddychwelant gan wneud eu storiau, a llunio y chwedlau mwyaf rhyfedd, digirf, a di-sail.

Fel dwedais i, tydy rhai pethau byth yn newid.

Ta waeth, gobeithio bod y blas hyn wedi eich ysgogi i fynd i edrych am Y Traethodydd.  Dw i’n meddwl mai’r prif beth dw i’n drio ddweud o hyn i gyd ydy, yn lle gwastraffu amser ar Facebook (a Twitter), beth am i ni drio ail-afael yn y blogio a trin a thrafod pethau o bwys.

This entry was posted in blogio, cyfryngau. Bookmark the permalink.

4 Responses to Y Teimlad Cenedlaethol: Cymru a’i gyfoeswyr

  1. Wel am flogiad gwych i ddod nol mewn i’r grŵf blogio!

    Hoffwn i feddwl ein bod ni’n mynd chydig tu hwnt i ‘the medium is the message’ ac efo rwbath werth dweud/darllen. Ond ma na wirionedd bod na elfen di bod o eisiau coloneiddio gofod cyhoeddi newydd er mwyn ‘dangos bod ni yno’. Da ni di mynd tu hwnt i hynna rwan gobeithio.

    Ma gen i gopi o Cymru adra. Na’i dynnu llun o rai tudalennau heno.

  2. rhys says:

    Diolch am y sylw. Yn sicr mae dweud rhwybeth o bwys yn lot pwysicach na jyst deud rhywbeth yn Gymraeg.

    Mae sôn ar y Wicipedia Cymraeg bod Cymru yn rhan o brosiect digideiddio Y Llyfrgell Gen, ond tydy o ddim i’w weld ar y rhestr eto, felly os cei gyfle, byddai’n gret gweld llun. O’r dyfyniadau o wahanol gyhoeddiadau’r cyfnod, roedd erthyglau difyr a treiddgar iawn i’w cael pryd hynny. Diolch byth am Barn, Y Fanner newydd (a’r Traethodydd) heddiw, ond ag eithrio Barn, piti nad yw cynnwys ardderchog y ddau arall (a pethau fel Llafar Gwlad) ddim i’w cael ar-lein. Mae’n wastraff o sgwennu da a syniadau/meddwl dwys.

  3. Pingback: Tweets that mention Y Teimlad Cenedlaethol: Cymru a’i gyfoeswyr | Gwenu Dan Fysiau -- Topsy.com

  4. Carl Morris says:

    Rhys, os wyt ti eisiau wneud cyfres o gofnodion am Y Traethodydd ayyb yma, dw i’n darllen! Dyn ni’n gallu postio’r dolenni i Facebook/Twitter hefyd.

    Roedd y cysyniad tu ôl fy sesiwn Hacio’r Iaith yn debyg, dathlu a stwnsio ein hetifeddiaeth sydd yn y parth cyhoeddus.

    Cer i’r cofnod os oes gyda ti diddordeb.
    http://haciaith.com/2011/01/29/chydig-ar-gof-a-chadw-addasiadau-barddoniaeth-gwilym-deudraeth/

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *