Eisteddfod Genedlaethol 2011 drwy lygaid blogwyr

Tra mae’r cyfryngau traddodiadol, megis papurau newydd a radio wedi rhoi llawer o sylw i’r Eisteddfod, mae yna amrwyiaeth da o gofnodion blogiau wedi bod hefyd. Dyma grynodeb:

Gan bod y pedwar Eisteddfod diwetha wedi bod o fewn awr i unai cartref fy rhieni yn y gogledd neu fy nghartref i yn y de, dw i heb dreulio wythnos Eisteddfod o wersylla a mynd allan i’r tafarndai lleol ers 2006. Dyna pam ro’n i’n genfigenus o Leia a sgwennodd gofnodion dyddiol ar Not Since School… o’i hwythnos hi, gan sôn yn fanwl am beth wnaeth ar y Maes ac am wibdeithiau yn yr ardal.

Fel basech yn disgwyl, roedd sawl cofnod ar Plaid Wrecsam, gyda Marc yn cloriannu’r wythnos ac yn cynnig awgrymiadau am wellianau. Mae sylw juicy o dan yr un cofnod gan Nia Lloyd sydd wedi gwneud cais Rhyddid Gwybodaeth:

Wedi bod yn cysidro beth sydd yn digwydd a cyllid yr Eisteddfod ers rhai blynyddoedd rwan, wedi cael ymateb heddiw gan Elfed Roberts, prif weithredwr i gais rhyddid gwybodaeth.

Blog lleol arall ydy Copa’r Mynydd. Cafodd Ro wythnos brysur yn Maes D, yn gweini yn y caffi ac fel bownsar tu cefn i’r llwyfan!

Daeth Jonathan yr holl fordd o Derby ar gyfer yr Eisteddfod. Ar ei flog, Llais Y Derwent, cewch ddarllen am ei wythnos prysur,  gan gynnwys rhoi cyflwyniad am ‘Ddysgu Cymraeg tu allan i Gymru’. Baswn i wedi hoffi clywed y sgwrs yma.

Roedd Neil (Clecs Cligwri) yn rhannu llwyfan gyda Jonathan Simcock yn y cyflwyniad uchod. Mae sawl cofnod am y Steddfod ar ei flog. Dw i’n meddwl bod Neil yn mwynhau’n arw pan mae Eisteddfodau yn dod i’r gogledd ddwyrian, gan ei fod yn gyfleus iddo deithio, ond eleni roedd yn fwy arbennig fyth gan iddo gyrraedd pedwar olaf y gystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn.

Os fetho’ch chi Orsedd y Dreigiau (“wedi ei selio ar y rhaglen deledu Dragons Den“), na phoener, mae adroddiad hir o’r gystadleuaeth ar flog Telesgop. Telesgop hefyd sy’n ennill y wobr am y Deitl Blog Hiraf 2011.

Fel minnau, tydy Elin o flog Melin Wynt ddim wedi bod yn cael cyfle i lawn fwynhau Eisteddfodau diweddar am wahanol resymau, ond mae wedi gwneud yn iawn am hynny eleni. Mae’ nodi ei huchafbwyntia – a’i hisafbwyntiau:

Nos Wener ar y Maes: Gweld llenor o fri yn neud pi-pi tu ol pabell Mantais. Na dim diolch!

Mae ambell gofnod ar flog newydd sbon o’r enw Anwadalwch. Er i Aled fwynhau’r gigs, mae ganddo feirniadaeth am feirniadaeth gobldicwcaidd Donald Evans ar gyfer cystadleuaeth y Goron. Darllenwch y dyfyniad – mae fel petai wedi cael ei sgwennu’n Saesneg gyntaf a’i drosi gan GoogleTranslate!

Draw ar rhysllwyd.com, mae gan Rhys llawer i’w ddweud am ei brofiad Eisteddfodol ei hun, gan gynnwys digwyddiadau Cymdeithas yr Iaith. Ond hefyd mae’n nodi sut mae proffeil oed mynychwyr Maes-B wedi newid a’i bryder am ymddygiad Cymry ifanc (a ddim mor ifanc) pan mae’r ddiod feddwol yn y cwestiwn.

Mae yna round-up campus ar Blog Pethe, ond mae Gwion yn dioddef o PED.

O’r blogiau Saesneg:

Ar Grangetown Jack, mae ambell gofnod gan Ian yn sôn am sut bu i’w deulu fwynhau eu hymweliad cyntaf a’r ardal, ond bod o’n pryderu na elwod yr ardal o ymweliad yr Eisteddfod a’i restr o uchafbwyntiau ac isafbwyntiau.

Mae gan Gareth Hughes sawl llun o’r Lle Celf, ac yn llwyddo cael dig at ‘carachar’ [sic] Cymraeg Caerdydd (that’s his job).

Draw ar flog Wales Music y BBC, mae Adam Walton yn disgrifio ei noson yn DJ’o yn gig nos Sadwrn Maes B ac yn siarad am ei gariad newydd – y band Dau Cefn.

Ar Welsh Icons mae canllawiau ar How to recreate the Eisteddfod in your own home in ten easy steps. Doniol, ond sobor o wir.

Ac i gwblhau’r cylch llosgachol meta-flogio, meta-eisteddfodaidd, draw ar Haciaith.com, mae Rhodri’n rhoi ei farn ar gystadleuaeth blogio yn Eisteddfod eleni ac y flwyddyn nesaf. Mae’n annog pob blogiwr Cymraeg i gymryd rhan.

Dw i’n siwr mod i wedi methu sawl cofnod blog. Rhestrwch neu yn y blychau sylwadau.

Gol. Hefyd ar Haciaith.com, mae Carl wedi postio cynnwys Darlith Goffa Owen gan Euryn Ogwen Willaims o dan y teitl ‘Y Newid Mawr’. Nid yn unig hynny, drwy wyrth y we, mae wedi cloddio a dod o hyd i gynnwys sgwrs/darlith  o 1998 gan Euryn Ogwen ar  pan roedd yr Eistedddfod yn Mhen-y-Bont.   Hoffwn weld mwy o gynnwys tebyg o’r Eisteddfod yn cael ei gofnodi arlein yn dilyn y digwyddiad.

Cafod y cofnod ei gyhoeddi yn blogio a'i dagio yn , . Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

1 Ymateb i Eisteddfod Genedlaethol 2011 drwy lygaid blogwyr

  1. Dywedodd Carl Morris :

    O ran Euryn, nes i ofyn ac dwedodd e ‘Mi fydd y ddarlith yn ymddangos ar wefan yr eisteddfod’. O’n i’n methu aros felly nes i ofyn am ganiatâd i’w rhoi ar Hacio’r Iaith. Felly cwestiwn yw, fydd mwy o stwff / cynnwys tebyg yn ymddangos ar wefan yr Eisteddfod a phryd?

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *