Darllediad byw yma, a’r hashtag ydy #haciaith. Hefyd gofynwch gwestiwn ac gyfer panel Haclediad (12-1pm) drwy ddefnyddio #haclediad.
Sesiwn Cloi: (Rhodri, Carl, Elin, Bryn a Sioned)
Diolch i Elin a Mercator am y gofod ac i’r noddwyr, ac i bawb a roddodd eu hamser wrth drefnu’r digwyddiad.
Beth weithiodd?
Gwell amrywiaeth o bynciau na blynyddoedd blaenorol.
Beth wnaeth ddim gweithio?
Angen grid mwy
Rhy oer yn rhai ystafelloedd
Dim digon o de a choffi
Di Wi yn wan yn rhai ystafelloedd
Awgrymiadau?
O bosib bod a sesiynau mwy meddal, efallai daw mwy yn y dyfodol sydd ddim mor hyderus.
Amserlennu o flaen llaw i weithdai/pethau ymarferol.
Math o PA cyn dechrau pob sesiwn. Efallai system arlein neu ar sgrin.
Sesiwn 6: Huw Marshall yn son am ei syniad o Radio’r Cymry. Yn y gorffennol, Cymry Cymraeg yn meddwl bod rhaid ‘cael caniatad’ cyn mynd a syniadau ymlaen a gwneud rhywbeth. Pam ddim gwneud stwff ein hunain? Twitter wedi bod yn gymorth lledaenu’r neges, ond hefyd ddim yn cyrraedd pawb o bell bell ffordd.
Am ddefnyddio system shoutcast.
Pa fath o gynnwys? Dylai Radio Cymry (neu ‘Cymru‘?) fod yn cynnwys mwy o gomedi a cherddoriaeth.
Pa fodel. Dylid defnyddio model fasnachol o werthu hysbysebion. Mae Bridge FM (ardal Penybont) yn darlledi i boblogaetho ddim ond 80,000. Llawer mwy o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru….a thu hwnt.
Rhagleni sampl yn cael eu creu rwan ac am gael eu cyhoeddi arlein yn fuan.
Angen plwraliaeth darlledu yny Gymraeg. Yr elfen gorfforaethol o fod yn atebol i’r llywodraeth. Radio’r Cymry yn gallu ymateb i gynulleidfa.
Falle cael nawdd i raglen penodol (e.e. LoveFlim ar gyfer rhaglen adolygu ffilmiau.)
‘Sdim rhaid mynd gyda GoogleAds, ffynhonellau eraill ar gael sy’n gallu targedu hysbysebion yn well a gwireddu mwy o incwm.
Ddim eisiau hysbysebion yn tarfu ar raglenni, ond yn ymddangos ar y wefan.
Rhaid apelio i’r siaradwyr Cymraeg sy’n gwrando na gwylio dim ar Radio Cymru a S4C.
Standup sy’n gyrru adloniant ym Mhrydain, ond dim cyfleoedd/platfform ar Radio Cymru.
Does dim rhaid cael slot hanner awr, teledu sy wedi ‘gorfodi’. Gallant fod yn snipets.
Pedair ysgol uwchradd Cymraeg Rhondda Cynon Taf gyda gorsaf radio eu hunain yn yr ysgol.
‘Sdim angen adeilad – Robert Peston (Radio 4?) yn darlledu o’i lofft yn ei PJs.
Dylanwad Llundain ar newyddion Cymru.
“Mae’r chwyldro yn mynd i ddigwydd ar y we!”
Sesiwn 5: Fi’n siarad am y Wicipedia (crash and burn go iawn.), Yna Jim Killock yn son am fanteision rhoi trwydded Creative Commons ar eich gwaith, ac yn arbennig y mantais i ddeunydd Cymraeg sydd ddim yn cael ei weld gan lawer o bobl yn y lle cyntaf. Cyfeiriodd at wefan vo.co sy’n rhestru ffilmiau o dan drwydded Creative Commons a ble mae pobl yn cyfranu arian. Mae un wedi derbyn $89,000.
Sesiwn 4: Lot o stwff yn ymwenud á’r Cymraeg i Oedolion.
Leia ac Ifan yn son am SaySomethingInWelsh.com, cwrs arlein, ar mp3, dim gwaith ysgrifenedig. Rheol 1 – PEIDIWCH SGWENU DIM BYD.
Yn ogystal a’r cwrs ei hun, mae’r gymuned sy wedi adeiladu o’i gwmpas yr un mor bwysig. Y gymuned yn creu cyrsiau eu hunain. Dathlodd y wefan ei 3ydd pen-blwydd wythnos diwetha yn Aberystwyth. Daeth tua 50, un o UDA, ac ymunod pobl o UDA, y Ffindir ac Awstralia yn ymuno ar GoogleHangout. Bootcamp yn spinoff. 10 person yn dod i aros yn Nhresaith. Dim gwersi, ond rheol dim Saesneg. Ifan wedi bod i ddau bootcamp ac wedi gwneud gwahaniaeth mawr i’w allu i siarad Cymraeg.
Tasgau arbennig (mynd at bbol ar stryd fawr Llambed yn gofyn gwestiynnau random (“Oes llyfrgell yma? “Ydych chi’n gallu canu?).
Map Google yn dangos defnyddwyr. Lot yn gwneud peehau[n wirfoddol.
Spin-offs (gan ddefnyddiwyr)
Lesson Guides. (Ym mha unedau ymddangos gerifa/patrumau arbennig)
Wiki
Moodle Gwaith Leia (gyda guest access) i dysgu pobl yn eu gwaith. Defnyddio hanner gwers cyntaf SSIW Cynllun gwersi. Geirfa swyddfa.
GoogleHangOut, at gyfer cwrdd mewn grwp neu trefnu parneriaid dysgu ar gyfer pobl yr un lefel.
Soundcloud. Pobl yn gallu gadael sylw ar bwyntiau pendol o fewn ffeil.
@DailyWelshWords Iestyn a Cat, 3 gwaith yr wythnos yn postio gair Cymraeg ond ddim yn esbonio ei ystyr. Pobl yn ateb gyda brawddeg Saesneg yn cynnwys y gair yn Gymraeg. Aildrydar atebion cywir.
Eisteddfod arlein. Y gymuned yn talu am wobroau a noddwyr fel siopau llyfrau o Gymru ac Amgueddfa Sain Ffagan.
Yn y dyfodol
SaySomethingIn….. (Dechrau gyda Sbaeneg. Ffrangeg nesaf, wedyn gobeithio Llydaweg a Chernyweg.)
Proses o dorfoli datblygiad technegol y wefan gan ddefnyddio sgiliau gwirfoddolwyr. Bwriadu creu gwefan rhanu ffeiliau. Yna Aran a Iestyn i ganolbwyntio ar greu mwy o gyrsiau.
@malpate nesaf yn son iTunesU ble mae Prifysgol Morganwg wedi postio adnoddau i ddysgwyr ar ffurf fideo a mp3.
Sesiwn 3: Jim Killock (Open Rights Group) yn son am newidiadau gan w3c (corff safoni gwefannau) ynglyn a’r ffyrdd mae cookies yn cael eu storio a’u rhannu. Pa mor bell gellir mynd? Unai rhwystro casglu cookies yn llwyr, neu galluogi unigolion i gyflwyno rhestr i’ch porwr o wefannau nad ydych eisiau cael mynediad iddynt oherwydd eu arferion casglu data a proffeilio? Anodd dal i fyny a beth sy’n cael ei drafod a theipio! Ydy cwmniau’n cymryd diogelwch o ddifri? (Gol. Mae Jim Killock wedi cyhoeddi cofnod am yr union bwnc ar wefan yr Open Rights Group.)
Hefyd yn trafod rheolaeth yr unigolyn dros data eu hunain, gyda’r holl transactions gwahanol rydym yn wneud ar lein. Angen system universal (TEBYG i paypal) ble nad oes rhaid i bawb ailadrodd ac ailrannu eu manylion pob tro. Angen penderfynu ar protocol yn hytrach na chael lockin/monopoly gan PayPal.
Sut ydym yn talu am wasanaethau am ddim (Facebook er enghraifft). Ein data yw ein taliad.
Data Protection Directive, tensiwn rhwng buddianau unigolion a chwmniau mawrion eisiau rheolau mor llac a phosib.
Sensoriaeth. Gwleidyddion yn sensora fel ymateb i piracy. Gwefan newsbin.com yn cael ei flocio gan bod cwmniau mawr yn meddwl bod nhw’n mynd yn groes i reolau hawlfraint. Y wefan yn dal i ailymddangos. Ydy blocio yn ddigon/yn addas? Blocio wedi arwain at mwy o sylw a mwy o ddefnydd o’r wefan! fttp:// yn gweithio fttps:/// (?) ddim. Encryptio yn golygu gall ISP ddim cael ei flocio’n llwyddianus. Gwneud i newsbin.com edrych fel yr un oedd yn cael cam.
[gliniadur yn cael gorffwys yn ystod yr Haclediad a cinio]
Sesiwn 2: Blogio/ S4C2.0. Lot o sesiynau diddorol ymlaen, ond es am yr un iawn achos mae Elliw (Paned a Chacen) wedi dod a chacen lemon drissle hyfryd. Elliw yn son am ei phenderfyniad i ddechrau blog a beth sy wedi dod yn ei sgil. Ar hyn o bryd yn sgwennu llyfr, yr enghraifft cyntaf o ‘blog i lyfr’ yn Gymraeg. Defnyddio’r blog a Twitter i ofyn i am syniadau am beth i bobi nesaf. Cafodd spike mewn ymwelwyr ar ol ymddangos ar raglen Blas ar Radio Cymru, a hefyd ar ddiwrnod Santes Dwynwen. Mae’n cymryd lot o amser, gan bod rhaid pobi yn ogystal a sgwennu. Mae Elliw gyda tua dau neu dri cofnod ar eu hanner yn baord ar y tro.
S4C 2.0 gan Bryn. Dim gweiddi heddiw. Darlledu arferol dan fygythiad gan YouTube, TWiT.tva 5by a pobl yn creu cynnwys eu hunain. Diffyg dewis yn y gorffenol ond ddim bellach gyda chwyldro y we. 1 awr o gynnwys yn mynd lan ar YouTube pob eiliad. Lot o ddyfyniadau o’r llyfr What Would Google Do? yn berthnasol i S4C. Y syniad o sianel wedi diflannu.
Posibiliadau hysbysebu wedi eu targedu yn well, wedi ei selio ar leoliad, a gyda dyfeisiau symudol gellir cysylltu hysbyseb bwyty/sinema gyda system archebu bwrdd/tocyn. Gallu creu cymdeithas, cysylltu actorion, rheolwyr, cynhyrchwyr a staff gyda’r cyhoedd. Rhaglen MythBusters yn cynhyrchu fideo yn dilyn pob rhaglen yn ymateb i sylwadau dderbyniwyd gan wylwyr. Rhywun o S4C yn dweud roedd adborth am cariad@iaith yn llywio ffurf a chynnwys y rhaglen blaenorol. Daniel Glyn yn son am ei brofiadau wrth gynhyrchu rhaglen am Rhys Ifans. Stwff a ddaeth o adborth wedi bod yn werthfawr.
O’r llawr, (Rhun) “Ydy hyn yn hysbyseb am ddim i Facebook a Twitter?” Ydyn nhw angen hysbysebu? Rheol newydd yn Ffrainc bod rhaid rhoi yr un math o ‘hysbys’ i bob gwasanaeth/cwmni (meddai Carl). Yn Gymraeg, mae angen y critical mass, felly rhaid mynd i ble mae’r gynulleidfa (Iwan).
Sesiwn 1: Rhan 1: Dyfodol Newyddion Lleol – Rhys a Sion yn son am waith ymchwil i gynnwys newyddion lleol, wedi ei ddarparu gan pobl lleol, o bosib yn defnyddio rhwydweithiau papurau bro. Rhedeg peilot ym Mangor, Caerdydd a (Chaerfyrddin?) i weld eu hagweddau tuag at roi cynnwys arlein ac anghenion hyfforddi. Trafod am pobl yn ansicr o’u Cymraeg, cyfleodd targedu hysbysebion lleol. Mynd o gwmpas gyda camra-flip i ddigwyddiadau. Oes enghreifftiau. Wrecsam.com (Saesneg) Glo Man (papur bro yn defnyddio Blogger) Y Clawdd (papur bro ar ffurf PDF a Facebook). Arian hyfforddiant/sbardun gan Ganolfan Cydweithredol Cymru. Papurau bro ofn colli eu statws. Creu rhywbeth ochr yn ochr, yn ychwanegol. Dylestwydd ar bobl i gyfrannu (amser, cynnwys ac arian).
Peidio bod ag obsesiwn am arian cyhoeddus, ond efallai gosod amodau ar bapurau bro i gyhoeddi arlein.
Peidio ailddyfeisio’r olwyn, defnyddio pethau fel WordPress.
Angen mwy o esiamplau i sbarduno eraill.
Sesiwn da, lot o gyfrannu. Parhewch y drafodaeth yma.
Diolch am hwn Rhys. Cofnod a chrynodeb werthfawr o dy brofiad. Mae’n neis gweld ongl rhywun arall ar y diwrnod.