Digon gwrth-Brydeinig i swnio fel Sieg Hail?

Mae’r cofnod yma wedi bod y ffrwtian yn fy mlwch drafftiau ers mis Tachwedd 2011. Ers hynny, mae datganaiadau wythnosol bron yn dod sy’n cythruddo rhywun, felly dw i jyst eisiau postio’r cofnod yma!

Falle mod i’n wrth-Brydeinig*, ond gan mod i ddim yn gwirioni ar athletau nac yn ystyried fy hun yn Brydeiniwr, pob pedair blynedd pan ddaw’r gemau Olympaidd heibio, dw i jyst yn dwedu “meh!” ac yn newid y sianel. Ond gan ei bod yn ‘y wlad hon’ eleni, mae pethau’n dra wahanol.

Os oedd rhywun yn meddwl bod arian wedi difetha pêl-droed fel bod dim owns o urddas yn perthyn i’r gêm bellach, mae’r gemau Olympaidd yn waeth fyth.

All rhywun ond prynu tocyn drwy ddefnyddio cerdyn VISA, noddwyr swyddogol y gemau.  Petai chi’n ddigon dwl i brynu tocyn, a meddal y cewch fynd a’ch babi i’r digwyddiad gyda chi i eistedd ar eich glin, wel, na chewch, rhaid i hyd yn oed babis newydd anedig fod a tocyn eu hunain.  Gan bod pob tocyn wedi ei werthu (heblaw am y gemau pêl-droed – mwy am hynny nes ‘mlaen), mae hynny’n amhosib rwan.  O leaif os ydych yn gadael eich plentyn adre gyda’r ffrindiau/teulu, gallwch eu ffonio i weld os ydy popeth yn iawn….na chewch, oherwydd bydd gwaharddiad ar ffonau symudol (ymysg pethau eraill).

Petai chi’n byw yn agos i ble mae’r gemau’n cael eu cynnal ac yn bod mor hy a gosod hysbyseb yn ffeneset eich lloft, mae gan yr heddlu’r hawl dod i mewn i’r tŷ a tynnu’r hysbyseb i lawr**. Defnyddio adnoddau prin yr heddlu i warchod buddianau noddwyr, beth nesaf?

Os ffansiwch fynd yn noethlymun, cewch eich cosbi wrth reswm am ymddygiad anweddus, fel yr arfer. Ond os digwydd i chi fod wedi peintio hysbyseb ar eich corff, cewch gosb ychwanegol o hyd at £20,000.

Duw a helpo unrhyw un sy’n meddwl mynd a brechdannau eu hunain gyda nhw i unrhyw stadiwm, dychmygaf mai’r cosb eithaf sy’n wynebu unrhyw un na fydd yn prynnu Big Mac gan un o brif noddwyr eraill y gystadleuaeth.

OK, mae noddwyr barus yn gysylltiedig ag unrhyw ddigwyddiad mawr dyddiau yma, ond mae Cymru wedi colli allan yn sylweddol, er yr honiad y byddai’r DG gyfan yn elwa.

Clustnodwyd £2.2bn o arian loteri at y digwyddiad. Byddai canran ohono  (£30 miliwn yn ôl un amcangfrif) wedi cyrraedd Cymru fel arall.

O’r holl gytundebau adeiladau ac yn y blaen, rhoddwyd ond gwerth 0.01% i gwmniau o Gymru.

Mae’r gwaith adaeiladu ffyrdd newydd o gwmpas Llundain ar gyfer y gemau Olympaidd yn cyfrif fel ‘UK spend’, felly nid yw’r gwariant yn cael ei ystyreid pan mae’n dod i weithio allan faint mae Cymru’n dderbyn o dan formiwla Barnett. Mewn un achos, gwariwyd £200 miliwn ar ffordd i ganolfan siopa newydd, ac mae’n debyg bydd Cymru £10miliwn ar ei cholled yn yr achos yma’n unig.

Tîm pêl-droed TeamGB

Dyma beth sydd wedi fy nghorddi i fwyaf. Dyma grynodeb.

Medi 30 2006: Cyhoeddwyd byddai tîm pêl-droed Team GB yn cymryd rhan yn y gemau Olympaidd. Datganodd gymdeithasau pêl-droed Yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon eu bod yn gwrthwynebu hyn, gan y byddai’n peryglu statws eu timoedd cenedlaethol (bu bygythiadau i hyd a phleidlais am y peth yn y 1970au, ’80au a’r ’90au). Mae cymdethasau cefnogwyr y pedwar gwlad (gan gynnwys Lloegr) hefyd yn gwrthwynebu’r syniad. Ymateb Simon Clegg, prif weithredwr Cymdeithas Olympaidd Prydain (BOA):

“We will be going ahead anyway. It is the BOA who selects the Games team.”

Ac ymateb Yr Arglwydd Seb Coe, cadeirydd pwyllgor trefnu Gemau Olympaidd Llundain i bryderon y cymdeithasau pêl-droed:

Fuck em!

Medi 2008: Yn dilyn Cais am Ryddid Gwybodaeth, ymddengys i Lywodraeth Prydain gael eu rhybuddio gan swyddogion FIFA mor bell yn ôl a 2004 y byddai tîm pêl-droed unedig yn peryglu statws y pedwar tîm cenedlaethol, ac nad oedd unrhyw werth i ddatganiadau i’r gwrthwyneb gan Sepp Blatter, gan y gall ei ragflaenydd eu gwrthdroi.

Mai 2009: Daethwyd o hyd i gyfaddawd, ble byddai tim Seisnig yn unig yn cynrychioli Prydain.

Ebrill 2011: Wedi i bopeth edrych fel petai wedi ei ddatrys, dyma’r BOA yn mynnu y dylai chwaraewyr o bob gwlad yn rhan o’r tim.

Hydref 2011: I rwbio halen yn y briw, dyma’r BOA (neu falle adran farchnata Adidas) yn llwyddo i berswadio Aaron Ramsey (capten tim Cymru neb llai) a Gareth Bale i fodelu crysau Team GB. Yn rhyfedd digon, ni ofynwyd i ddim chwaraewyr Lloegr fodelu’r cyrs. Yn ol  un cefnogwr, roedd gweld y lluniau hyn:

It’s like seeing a video of your missus sucking off another man. Mochyn.

Fel gallwch ddychmygu, fe arweiniodd hyn at ddrwgdeimlad ofnadwy ymysg cefnogwyr.

Tachwedd 2011: Wel, wedi hyn, allech ddim dychymgu dim gwaeth yn digwydd. O leiaf fyddai’r BOA yn ddigon sensitif i beidio cynnal dim gem pel-droed Team GB yn Nghymru…

..o, sbiwch beth fydd yn digwydd yn Stadiwm y Mileniwm ar y 1af o Awst 2012.

Mae’r holl beth yma yn crynhoi Prydeindod i mi, ble mae ein meistri yn Llundain unai’n ddall neu’n gwbl ddihid tuag at deimladau a buddion Cymru a’r Cymry.

*Falle byddai rhywbeth fel “Beth wnaeth yr Olympiaid erioed i ni?” wedi bod yn deitl mwy addas, ond ro’n i’n meddwl baswn i’n trio denu ymwelwyr sy’n ffans Datblygu.

**Erbyn hyn, mae mesurau arbennig yn dod i Gaerdydd a fydd yn gwahardd unrhyw hysbysebu a gweithgarwch masnachol answyddogol o fewn 500 meter i Stadiwm y Mileniwm (h.y. canol y ddinas i gyd). Bydd hyd yn oed rhaid gorchuddo’r hysbysebion Brains ar y pontydd rheilffrodd!

Cafod y cofnod ei gyhoeddi yn Gwleidyddiaeth, Pêl-droed, Prydeindod a'i dagio yn . Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

1 Ymateb i Digon gwrth-Brydeinig i swnio fel Sieg Hail?

  1. Dywedodd Wilias :

    Ymgais despret gan y Brits i gadw’r Celtiaid dan y bawd. Fel lolbotas y jiwbili, mae’n ddigon i dorri calon rhywun gweld plant yn chwifio union jacks ar ochr stryd..

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *