Blog BBC Cymru yn camsefyll.

Dw i’n eitha hoffi Ar y Marc, blog am bêl-droed gan BBC Cymru,  (mae’n debyg mai fi ydy’r unig un sy’n ei ddarllen – tydi’r ffaith bod y blwch sylwadau wedi torri ers misoedd ddim yn help*), ond fe’m cythruddwyd gan osodiad mewn cofnod diwethar. Yn y cofnod Ddim yn gem mor brydferth wedi’r cwbl ! mae’r awdur Glyn Griffiths yn trafod trafferthion diweddar y gêm yn Lloegr, gyda’r helyntion yng nghylch hiliaeth a digwyddiad gwarthus pan ymosododd ‘cefnogwr’ Leeds United ar chwaraewr Sheffield Wednesday. Beth gododd fy ngwrychyn i oedd y sylw canlynol gan Glyn Griffiths:

Siom hefyd oedd gweld mai sefyll oedd cefnogwyr Leeds, a hyn mewn rhan o stadiwm a welodd un o’r trychinebau mwyaf yn y byd peldroed, ac a arweiniodd at sicrhau ( yn dilyn Adroddiad Taylor yn 1989) fod meysydd peldroed yn dod yn rhai sydd â seddau ar gyfer pawb.

Dw i’n ddim yn gwybod ble mae Glyn Griffiths wedi bod yn ystod y mis neu ddau ddiwethaf, achos mae llawer o sôn wedi bod yn y cyfryngau gan bod tystiolaeth o’r newydd yn cadanrhau mai gweithredoedd yr awdurdodau, yr heddlu’n arbennig, oedd yn gyfrifol am y marwolaethau, a’u bod wedi ceisio achub eu crwyn drwy roi’r bai ar y cefnogwyr.

Tydi newyddiaduraeth diog fel hyn, neu ail-bobi ffeithiau anghywir yn fwriadol ddim yn beth newydd, yn arbennig yng nghyd-destun trychineb Hillsbrough. Mae sawl enghraifft ar erthygl Wikipedia’r drychineb, gyda hyd yn oed y twlsyn Jeremy Hunt AS yn dwed mor ddiweddar a 2010 tra’n canmol ymddygiad cefnogwyr Lloegr yng Nghwpan y Byd yn Ne Affrica:

“I mean, not a single arrest for a football-related offence, and the terrible problems that we had in Heysel and Hillsborough in the 1980s seem now to be behind us.”

Des ar draws y dyfyniad uchod gan Hunt wrth darllen llyfr o’r enw Stand Up Sit Down: A choice to watch football, sydd, fel y gallwch falle ddyfalu o’r teitl, yn ymwneud â’r ymgyrch i ganiatau cefnogwyr pêl-droed i sefyll mewn gemau. Tra y gallaf ddeall na fydd y llyfr hwn ar frig eich rhestr at Siôn Corn eleni, mae’n werth ei ddarllen am sawl rheswm.

Ystadegau

Mae’n llawn ystadegau, fel prif achosion anafiadau mewn gemau pel-droed (llosgiadau diod poeth, pel yn taro pobl, pigiadau cacwn oedd y prif rai os cofiaf yn iawn) asawl person gafodd eu arestio am bod 100,000 o gefnogwyr mewn meysydd seddi i gyd o’i gymharu a meysydd ble caniateir sefyll (mae mwy yn cael eu harestio mewn meysydd eistedd yn unig).

Hanes trychinebau mewn meysydd pêl-droed

Mae llawer o sylw yn cael ei roi i Hillsborough wrth reswm, nid dim ond ar ddigwyddiadau diwrnod y drychineb ond hefyd gan adrodd sut bu pryder cyn y gêm parthed y trefniadau a chyflwr y stadiwm. Mae hefyd cryn dipyn o edrych yn ôl ar drychinebau eraill, fel Ibrox (1971) a Valley Parade (1985), a sut achoswyd y rhain gan esgeulustod o ran perchnogion y meysydd.

Y profiad o sefyll heddiw

Mae’r awdur Peter Caton, yn ymweld â gwahanol feysydd sy’n dal i ganiatau sefyll, er mwyn holi’r cefnogwyr yno, swyddogion diogelwch (safety nid security) a weithiau cadeiryddion y clybiau.

Dadleuon yn erbyn Adroddiad Taylor

Adroddiad Taylor a arweiniodd at deddfu fel bod rhaid i feysydd clybiau dwy adran uchaf yn Lloegr fod yn seddi yn unig. Roedd yr adroddiad yn seiliedig ar ddata a rhagdybieithau cwbl ffals a disail. Pan mae hyn yn cael ei esbonio i’r awdurdodau sydd gyda’r grym i newid y ddeddf neu ddylanwadu arno (megis Cymdeithas Bêl-droed Lloegr a Gweinidogion sydd a chyfrifoldeb dros chwaraeon), maen nhw hefyd yn ailadrodd yr un ddadleuon ffug ac yn pwyntio at ddata maen nhw eu hunain yn gwybod sy’n anghywir.

Mae rheolau mympwyol ble mae’n rhaid i glybiau sy’n ennill dyrchafiad i’r lefel hyn addasu eu meysydd ar ol treulio pum mlynedd ar y lefel hyn. Cyfanswm o bum mlynydd hynny yw, nid pum mlynedd o’r fron, a hyd yn oed os ydynt yn disgyn allan o’r gynghrair ar ol pum mlynedd rhaid dal cydymffurfio a mynd i’r gost, hyd yn oed os nad oes galw am y seddi. Yn ogystal a’r gost o addasu, mae hyn hefyd yn arwain at gyfyniad yn faint o bobl all fynychu gemau, sydd wedyn yn effeithio ar botensial incwm clwb. Mae’r rheol yma’n gwbl hurt gan ei fod wedi ei selio ar pa lefel mae clwb yn chwarae yn hytrach na beth yn union yw cyflwr eu maes ac unrhyw beryglon tebygol.

Mae anghysondebau hefyd ble mae campau eraill, megis rygbi, yn gallu parhau i adael i gefnogwyr sefyll, hyd yn oed ar y lefel uchaf.

Ryan Valentine scores

Mae’n debyg eich bod yn gofyn pam mod i’n teimlo mor gryf am yr hawl i sefyll – siawns byddai rhywun call ond yn rhy falch o’r cyfle i gael sedd gyfforddus? Mae’r llun uchod yn olygfa na welwn byth eto mae’n debyg, sef o bobl yn sefyll wrth wylio Wrecsam. Ro’n i’n un o’r cannoedd yno’n sefyll yn gwylio’r gêm dyngedfenol uchod ble roedd rhaid i Wrecsam ei hennill i aros yn y gynghrair. Mae cyfuniad o ffactorau wedi arwain at gau’r Kop yn Wrecsam, ond mae’r ddedfwriaeth gwrth-sefyll wedi chwarae ei ran ac fe all rhoi esgus i berchenog newydd y stadiwm (Prifysgol Glyndwr) i dynnu’r Kop i lawr a rhoi eisteddle pitw yn ei le

Adloniant gweledol ydy pel-droed, ac os ydy’r dorf yn dawel, mae’r awyrgylch yn ddilas ac anghysurys.  Un o’r pethau a’m denodd i i wylio pel-drod byw oedd yr awyrgylch a’r ymdeimlad o undod y cewch wrth gyd-ganu gyda dieithiriad.  Tra mae’n bosib canu ar eich heistedd, mae’n amlwg mai sefyll yw’r dull gorau, fel mewn capel wrth ganu emyn ac mewn eisteddfod wrth gystadlu.  Mae teras agored hefyd yn caniatau i chi gerdded o gwmpas a  dod ar draws ffrindiau ar hap, ac felly mae rhoi tocyna sedd penodol i bawb yn eich hamddifadu o’r ochr gymdeithasol o gyd-wylio gyda ffrindiau.

*Pob tro dw i’n trio gadael sylw, ac yn teipio’r llythrenau a’r rhifau cywir ar gyfer y CAPTCHA, ond yn derbyn y neges canlynol pob tro:

Gwall wrth anfon sylw

Methwyd anfon eich sylw am y rhesymau canlynol:

Rhoddwyd y testun prawf anghywir. Ceisiwch eto.

Cafodd y cofnod ei gyhoeddi yn Pêl-droed. Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *