Ers i’r blog Cymraeg cyntaf ymddangos yn 2004 (neu 2003, neu gynt?), mae nifer o rai eraill wedi dilyn. Mae rhai yn dal i fynd heddiw, rhai wedi eu gadael (ond yn dal ar gael), ac eraill wedi diflannu’n llwyr (unai dryw ddewis yr awdur neu oherwydd telerau’r cwmni llety).
Mae sawl newid wedi bod. Ar y dechrau, roedd bron pob blogiwr Cymraeg yn roi dolen at bron i bob blog Cymraeg arall. Gydag amser, fe newidioedd hyn, yn rhanol gan bod oes y blogroll wedi dod i ben, ac hefyd gan bod cynifer o flogiau Cymraeg, roedd pobl yn dewis a dethol pa flogiau roeddynt yn ddarllen a pha rai roeddynt yn rhoi dolen atynt. Roedd hyn yn beth i’w groesawu, sef bod pobl yn rhoi dolen yn ôl a blaen i’w gilydd gan bod y blog o ddiddrodeb, ac nid o ddyletswydd.
Fel mae amser wedi mynd yn ei flaen (a gyda chwymp ym mhoblogrwydd cadw blog?), mae’r byd blogio Cymraeg wedi dod yn fwy darniog, ac efallai gyda llai o gyswllt rhwng y blogiau a’r blogwyr.
Dw i wedi manteisio wici Hedyn (rhyw bwll tywod i botsian gyda’r ‘pethe’ Cymraeg ar-lein) i gasglu blogiau Cymraeg. Mae’r casgliad yn cynnys blogiau byw a rhai sydd ddim gyda ni bellach. Mae sawl peth wedi fy ysgogi, ond yn bennaf i ddangos y fath amrywiaeth sydd ac a fu.
Mae defnyddio wici i wneud hyn yn fy ngalluogi i ddodi’r blogiau mewn gwahanol gategoriau, a dw i wedi dewis y canlynol:
Dyddiad sefydlu – er mwyn gweld os oes trends.
Lleoliad – I weld sut fath po ddosbarthiad sydd (o fewn Cymru a tu allan iddi), ac hefyd falle i weld os byddai’n annog pobl i drefnu blog-gwrdd lleol os byddant yn sylwedodli bod sawl blogiwr arall gerllaw.
Pwnc – Dau reswm, un i ddangos yr amrwyiaeth, ac yn ail i geisio uno pobl sy’n blogio am yr un pwnc
Platfform cyhoeddi – Eto, oes trend? Dw i’n credu mai Blogger oedd yr un mwy poblogaidd ar un adeg, ond falle bod hyn wedi/yn newid
Cenedl yr awdur – Gender nid nationality. Beth yw’r ratio dynion/merched? Ydy o’n wahanol o’i gymharu a blogwyr ieithoedd eraill? Ydy o wedi newid tros amser?
O ble dw i’n casglu’r blogiau?
Tydi’r rhestr ddim yn gyflawn eto. Dw i wedi dechrau gyda blogiau sy’n dechrau gyda A a B ac wrthi’n gweithio trwy’r rhestrau yma, yma, yma ac yma. Mae’r rhain yn seiliedig ar fy blogroll i, ond mae nifer o hen flogiau ar goll arno ac hefyd sawl un newydd sy wedi ymddangos yn y flwyddyn a hanner diwetha nad ydw i wedi cofio eu dilyn.
Eich help chi.
Gan mai ar ffurf wici mae’r casgliad, gall unrhyw un gofrestru gyda Hedyn a cyfrannu at y casgliad. Neu os sylwch mod i wedi methu rhwybeth, croeso i chi adael sylw ar y wici neu ym mlwch sylwadau’r cofnod yma os yw’n well gyda chi (er, ar y wici fasai orau).
Hefyd, mae gyda fi gwestiwn neu ddau ynglân a sut i drefnu’r casgliad. Eto, gadewch sylwadau ar y wici neu yn y blwch sylwadau yma.
Parchu preifatrwydd y blogiwr – Yn y meysydd enw, lleoliad a chenedl, dw i’n gadael rhain yn wag os nad yw’n hysbys ar dudalen blaen, neu adran ‘Ynlyn a’ yn blog. Os ydw i’n gwybod yr ateb i un o’r tri uchod, dach chi’n meddwl bod o’n iawn i wneud chwiliad o fewn y blog rhag ofn bod y wybodaeth yn wedi ei grybwyll mewn cofnod, ac wedyn ei nodi yma? Ydy hyn yn rhy sensitif?
Lleoliad– Os yw’r person wedi symud ers seydlu ei flog/blog, dw i’n eu nodi mewn mwy nag un categori. Dw i’n rhoi mwy nag un lleoliad i lawr os yw’r blogiwr wedi symyud tra’n cadw’r blog. Cymru wedi ei rannu’n siroedd (presenol), tu allan i Cymru wedi ei rannu i wledydd yn unig (falle rhannu UDA yn ôl talaith).
Pwnc – Falle mai hwn ydy’r peth mwya trici a sy’n debygol o fod yn ddadleuol. Tydy rhai pobl ddim yn licio cael eu categoreiddio ac efallai bydd eraill yn anghytuno gyda diffiniad categori. Hefyd, ydy hi’n bosib cael gormod o gategoriau? Oes eisiau ail-enwi rhai? Oes rhai ar goll?
Cofnod da. Well i ni ddefnyddio ‘cysgu’ yn hytrach na ‘marw’ dw i’n meddwl!
Lleoliad – o’n i ddim yn meddwl am blog-gwrdd yma, syniad da!
Pwnc – hefyd rydyn ni’n gallu mapio’r pynciau heb blogiau.
Beth yw Hedyn? Dw i’n meddwl amdano fe fel tŷ gwydr y we Gymraeg, fel mae’r enw yn awgrymu. Rydyn ni angen enw am y casgliad blogiau! Hmm… beth am Y Casgliad? Neu Casgliad heb yr Y?
Ro’n i’n ceisio mynd am ‘dead or alive’ i fod yn dramatig, ond mae ‘cysgu’ yn lot neisiach, ac yn fwy cywir gan y gall blog gael ei atgyfodi unrhyw bryd.
Ia, bydd modd abnabod bylchau yn y mathau o flogiau.
Mae tŷ gwydr yn dehongliad da ar gyfer Hedyn.