Dim ond fi, y draffordd a gwasanaeth radio cyhoeddus

Prynhawn ‘ma, ar ôl danfon fy ngwraig a’r peiriant pw-pw at dylwyth yn Warrington, gyrrais yn ôl am adre ar ben fy hun gyda rheolaeth llwyr ar fy nhynged, ac am unwaith, ar ddeial y radio. Ond cyn sôn am yr arlwy y profais ar y radio, hoffwn sôn am arlwy hanfodol ar gyfer taith ar drafforth, sef coffi. Mae rhieni fy ngwraig yn byw jyst tu allan i Efrog, felly rydym yn hen gyfarwydd a gwasanaethau ochr traffordd. Chwarae teg, maen nhw’n gyfleus ofnadwy, ond ar y cyfan, mae nhw’n depressing, di-enaid a drud (er, mae’r rhain yn Cumbria yn edrych yn wahanol).

Pan gyrhaeddais Wasanaethau Stafford a gweld y ciw ANFETH ac araf yr olwg wrth gownter Costa, dyma droi’n ôl i’r car, chwilio am bentref/tref rhwng y ddwy gyffordd nesaf yn yr atlas, a gwglo ‘real ale, Penkridge’ ar fy ffôn, a dilyn fy nhrwyn. Ie, dw i’n gwybod mai chwilio am le i gael coffi o’n i, ond am ryw reswm, dw i’n meddwl bod unrhyw dafarn sy’n gwrthu cwrw deche hefyd yn mynd i wneud coffi hanner call hefyd, er gwyddwn nad yw hyn yn wir pob tro. Roedd canlyniad cyntaf Google wedi awgrymu The Swan yn Whiston, sy’n diwgydd bod yn enillydd teitl tafarn y flwyddyn y gangen CAMRA lleol, ond roedd ychydig bach gormod off-piste, felly mentrais i’r Littleton Arms, sydd ar y prif stryd wrth i chi yrru drwy dref fechan a thwt Penkridge. Mae’n adeilad deniadol, gyda bwydlen neis, a dewis da o gwrw go iawn (gan gynnwys un gan Purity Brewing Co. dw i wedi clywed cymaint amdanynt) ac yn cynnig papur newydd i’w ddarllen a wi-fi am ddim. Yn anffodus, dim ond OK oedd y coffi Americano a’r brownie siocled, er fe lenwodd dwll ac roedd y staff yn hynod gyfeillgar, felly baswn yn bendant yn mynd yn ôl yno (os byddaf byth ar sesh drwy Swydd Stafford wledig yn y dyfodol!).

Yn ôl i’r car i wrando ar y radio. Tydw i ddim yn gwrando ar lawer o radio o gwbl (oni bai mod i’n digwydd bod yn golchi llestri pan mae Radio Shwmae arnodd), nac ychwaith gyda lot o fynedd gyda phêl-droed Uwchgynghrair Lloegr, ond heddiw mi ges i wledd amrywiol iawn, a diolch i’r BBC am hynny. Cyn cyrraedd Penkridge ro’n i wedi dal diwedd y gêm hynod rhwng Man Utd a Man City (gyda Man City yn ennill 6-1, ac oddi cartref, os nad ydych yn dilyn y gamp). Hefyd ro’n i wedi cael fy siomi ar yr ochr orau gan y cerddoriaeth ar raglen Gaynor Davies, a’i gwestai, Lisa Jên, a ddewisiodd gân gan The Black Arm Band o Awstralia, rhyw fath o collective o artisitiad sy’n canu yn ieithoedd brodorol y wlad.

Wedi ailgychwyn y daith, dyma ni fwy o bêl-droedd cyffrous, gyda chanlyniad annisgwyl QPR yn curo Chelsea (eto ar Radi 5 Live). Wedi hynna, newid cywair yn llwyr, drwy wrando ar yr annwyl Hardeep Singh Kohli yn cyflwyno Pick Of The Week ar Radio 4 – lot o stwff difyr yma, a braf oedd y ffordd roedd yn plethu themâu ambell eitem roedd yn adolygu gyda ei fagwraeth ei hun yn Yr Alban. Gorffenais y gloddesta gyda rhaglen gwbl newydd i mi, sef Sesiwn Fach, ble roedd y cyflwynydd Idris Morris yn sgwrsio gyda Danny KilBride (Cadeirydd TRAC Cymru) a Iolo Whelan (o’r grŵp Mabon ymysg eraill). Nid mod i ddim yn lico stwff gwerin, tydy o byth ymath o beth dwi’n mynd i chilio amdano, ond wedyn dw i wastad yn ei fwynhau pan glywaf o, yn enwedig stwff Cymraeg.  Yn rhyfedd ddigon, roedd sgwrs ar y rhaglen yma, ac rhwng Lisa Jên a Gaynor Davie yn gynharach, yn sôn sut mae cerddorion gwerin Cymru yn cael cymaint gwell ymateb a chydnabyddiaeth tu allan i Gymru nac ydyn nhw yng Nghymru. Chwaraewyd gân Llydaweg ar y rhaglen yma gan Alan Stivell ac artist arall.

Ydy hyn yn record i Radio Cymru sgwn i, ble chwaraewyd mwy nag un cân mewn iaith arall (ag eithrio Saesneg!) ar fwy nag un rhaglen ar yr un diwrnod?

 

Cafod y cofnod ei gyhoeddi yn cyfryngau a'i dagio yn , , , , , . Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

1 Ymateb i Dim ond fi, y draffordd a gwasanaeth radio cyhoeddus

  1. Dywedodd Carl Morris :

    Dw i ddim yn gwybod ond roedd rhaglen da iawn yn y nosweithiau llynedd o’r enw Beth yn y Byd gyda Bethan Elfyn gyda thraciau o gwmpas y byd.

Gadael Ymateb i Carl Morris Diddymu ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *