Dymp dolenni Hacio’r Iaith Bach (Newyddion Lleol ac Ein Caerdydd)

Yn yr Hacio’r Iaith Bach diweddaraf, cafwyd sawl sgwrs ddifyr.  Dyma grynodeb o beth drafodwyd o dan y thema ‘Newyddion Lleol’ (er mwyn rhoi dolen o’r cofnod gwreiddiol ar haciaith.com).

Enghreifftiau o fodelau gwahanol/llwyddianus:

Denu cyfranwyr a chymedroli

  • Yn hytrach na jyst gofyn am gyfraniad (drwy ebost e..e.) gan unigolion neu sefydliadau, jyst creu cyfrif iddynt a danfon enw defnyddiwr a chyfrinair gyda chyfarwyddiadau a deud “ewch amdani!”.
  • Gallwch greu hyd at 30 cyfrif ar wasanaeth wordpress.com
  • Hefyd ar wordpress.com, mae modd gosod cyfrifon gyda lefelau gwahanol o hawliau. Lefel isaf yw ‘Cyfranwr’, ble mae rhaid i rhywun arall fod wedi gwirio erthygl/cofnod cyn iddo ymddangos yn fyw. Handi ar gyfer cyfranwyr newydd, a rhai sy’n llai hyderus am safon eu hiaith/sgiliau technegol.

Faint o bobl sy’n darllen, beth, ac o ble? Ffigyrau am eincaerdydd.com (cliciwch i weld graffiau)

Er mor isel yw’r nifer ymwelwyr a prn yw’r sylwadau (sniff), mae’n debyf bod rhywfaint o ddylanwad i’r blog – cafwyd ymateb da i gais am wirfoddolwyr i arolwg tafodiaith ac roedd pennaeth marchanta S4C yn trafod y blog gyda’m cyngyflogwr.

Cafodd y cofnod ei gyhoeddi yn blogio, cyfryngau, Hacio'r Iaith. Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

2 Ymateb i Dymp dolenni Hacio’r Iaith Bach (Newyddion Lleol ac Ein Caerdydd)

  1. Dywedodd Carl Morris :

    eincaerdydd.com – does dim digon o ddata ynglyn ag erthyglau poblogaidd eto… yn fy marn i.

  2. Dywedodd rhys :

    Ydy, mae’n dal yn ddyddiau cynnar, rhy gynnar i ddo i unrhyw gasgliadau, ac mae un RT gan gyfrif Twitter lled-ddylanwadol yn newid erthygl poblogaidd yn hawdd. Ro’n o’n hanner mewddwlpeidio rhannu’r ffigyrau gan mod i’n teimlo eu bod un siomedig o isel, ond mi ofynnodd ambell un y cwestiynnau.

    Hefyd, ble ydy’r lle gorau i drafod thema/patrymlun newydd – ar Ein Caerdydd ei hun, neu mewn cofnod yma? Dyma rai ar wordpress.com sy wedi dal fy sylw. Falle dylwn/dylem restru rhyw fath o restr o beth rydym eisiau mewn thema (colofnau?, y gallu i ddangos enw cyfrannwr ayyb)

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *