Efrog

Yn ddiweddar, gofynnodd Geraint i mi am dips am bethau i’w gwneud yn Efrog, gan fod fy rhieni-yng-nghyfraith yn byw gerllaw. Yn hytrach na jyst ebostio stwff ato, dyma gofnod blog yn y gobaith bydd y wybodaeth o ddefnydd i eraill.  Mae rhai o’r canlynol wedi ei gwneud hi i’m map.

[NODER: Gan bod degawd(!) wedi mynd heibio ers imi ysgrifennu hwn, mae tipyn wedi newid, felly gwiriwch yn gyntaf. Chwefror 2023]

Llefydd i’w gweld ganol y ddinas

  • York Minster – Braidd yn amlwg falle, ond rhaid mynd i weld y lle yma o leiaf unwaith. Mae maint y lle yn unig yn anhygoel. Mae modd hefyd cerdded i ben un o’r tyrau. Hanner yr hwyl ydy’r daith i fyny ar y grisiau (culion) a chael cerdded ymysg y bwtresi. Mae’r olygfa yn werth chweil, ac mae edrych lawr ar y strydoedd igam-ogam gerllaw fel edrych i lawr ar Ankh-Morpork.
  • Holy Trinity Church (Goodramgate), yn llythrenol yng nghysgod y Minster, mae’r Holy Trinity Church diymhongar yn gyferbyniad llwyr i’w chymydog gyda’i llawr anwastad a’i seti sgwar ochrau uchel. Mae’r lle’n dipyn o werddon os ydych am ddianc o brysurdeb y strydoedd cyfagos. Mae mynedfa iddi drwy fwlch rhwng dau adeilad, felly mae’n hawdd ei methu.
  • York St Mary’s – Na, does gyda fi ddim fetish am addoldai – mae’r cyn-eglwys yma wedi ei thrawsnewid i fod yn ofod ar gyfer installations celf. Fel arfer, un darn o waith anferth sydd i’w weld ar y tro, yn cymryd mantais llawn o uchder yr adeilad. Dw i wedi bod i weld sawl un, a byth wedi’m siomi.  [Gol. Erbyn hyn mae’n rhaid talu i fynd i mewn, a dio ddim yn rhad]
  • City Screen – sinema sy’n dangos ffilmiau amgen tebyg i arlwy Chapter yng Nghaerdydd.
  • Museum Gardens – lle braf i ymlacio os ydy’r tywydd yn heulog. Rhyngddo ag adeilad Oriel Gelf Efrog mae adfeilion beth oedd yn adeilad Senedd Lloegr ar un adeg.
  • York Castle Museum – Fel rhyw mini-Sain Ffagan bron, gyda chyfuniad o orielau a ‘stryd’ o’r ddinas drwy’r oesoedd (i gyd dan do). Gwerth cael eich tywys o gwmpas gan yr heddwas gwybodus.
  • Mae lot o adeiladau guilds drwy’r ddinas, ambell un yn agored i’r cyhoedd (am bris). Falle byddwch yn lwcus, fel bues i, a dod ar draws rhyw arddangosfa o waith rhyw grŵp celf lleol neu beth bynnag sy’n cael ei gynnal mewn un sydd ddim fel arfer ar agor i’r cyhoedd.
  • Fel dinas academaidd, mae siopau llyfrau elusennol Oxfan ac Amnesty yn llawn dop o lyfrau ail-law o safon.

High Petergate. Mae amryw o lefydd bach neis i fwyta/yfed a siopa ar y stryd fechan yma ger y Minster:

  • Cafe Concerto – bwyd neis, lot o quiches a salads hyfryd a gwreiddiol. Reit poblogaidd oherwydd ei leolaid, felly ewch yno’n gynnar os am ginio.
  • Three Legged Mare – un o ddwy dafarn York Brewery. [Gol. Mae’r bragdy wedi’r brynu gan Black Sheep, ond mae’r dafarn a’r cwrw dal run fath o beth dwi’n ddeall] Er ei fod yn dafarn gymharol newydd dw i’n meddwl, mae naws draddodiadol i’r lle (h.y. pyb call) gyda dewis da o holl gwrw’r bragdy. (Guzzler ydy fy hoff un i).
  • Little Apple Bookshop – siop lyfrau fechan sydd a dewis rhyfeddol o dda o lyfrau ac anrhegion bychain (sdwff Moomins ayyb)  

Tafarndai
Gyda thafarndai canol y dref, allwch chi ddim mynd o’i le rili yn unrhyw un ohonynt.  Mae’r adeiladau eu hunain i gyd yn hynafol a heb gael eu difethau (a la Brains) ac fe gewch ddewis da o gwrw go iawn ym mhob un. Maen nhw’n cymryd eu cwrw go iawn o ddifri yn y rhan yma o’r byd.  Os ydych am fynd ag ychydig boteli o gwrw gan fragdai Swydd Efrog adre efo chi, mae amryw o siopau arbenigol, fel Hand of Trembling Madness on Stonegate.

[Ychwanegiad 2023 am dafarndai] Mae Within The Walls yn wefan golygu tafarndai ardderchog (sy’n cynnwys mapiau gydag awgrymiadau am wahanol pub crawls hunan dywys a pha rai sydd â gerddi cwrw). Mae gormod o ddewis wrth gwrs, felly mae’n cynnig rhestr sy’n sgorio uchaf. Dwi heb fod iddynt i gyd ac mae sbel ers i mi fod yn y dre’n yfed, ond dyma gyfuniad o rai dwi’n hoffi/eisiau ymweld:

  • Pivni a House of Trembling Madness (x2) – adeiladau hynafol, dewis diddorol o gwrw
  • Os am esgus bod yn local, mae’r canlynol ar gyrion canol y ddinas: Slip Inn, Minster Inn, Waggon and Horses (landlord right on yn ôl ei dwîts), Golden Ball (menter gymunedol) 
  • Market Cat (Bragdy Thornbridge) a The Hop (Bragdy Ossett) – naill ai llefydd pizzas efo cwrw da neu tafarndai efo pizzas da – penderfynwch chi!
  • Brew York Taproom yng nghanol y ddinas – lot o gwrw amrywiol, gan gynnwys surion gwirion a bwyd stryd Asiaidd (rolio llygaid!)

Paned a chacen  Mae pobman yn gallu bod yn brysur yng nghanol y dref.

  • Am bach o heddwch, baswn i’n mynd am Gray’s Court, mae’n gymharol ddrud (er falle dim gwaeth na Betty’s Tearooms), ond mae mewn adeilad ffantastig ac wedi ei guddio mewn cwrt tu cefn i’r Minster.
  • Neu am rhywbeth rhatach, triwch Cafe Harlequin (King Square, uwchben siop bwci Labroke’s). Mae’r decor yn eitha plaen, ddim rhy brysur, ond mae’r coffi’n dda a’r perchenog yn gyfeillgar.
  • Bar Convent. Bach o gerdded o’r canol and ger Micklgate Bar os ydych yn crwydro’r waliau. Caffi digon cyffredin fel y gallwch dychmygu o leiandy, mae’n dawel braf yn yr ardd a thu mewn. 

Bwyd – Dw i heb fod allan lot am brydau o fwyd ganol dre, mond i Pizza Express cyn sesh

  • Ond os am rhywbeth safonol (ac ychydig yn ffurfiol), mae Middlethorpe Hall, (gan yr un pobl a Neuadd Bodysgallen ger Llandudno).
  • Ar ben arall y pegwn, rhywle sy’n newydd i mi, ond wedi clywed canmol amdano (yn arbennig y tagine cig oen) ydy Xing.
  • Gwerth sbio ar Cheap eats; York on a fork o flog Word of Mouth y Guardian.

[mi dria i gael argymhellion eraill yma]

Be sy mlaen?

  • oneandother.com – dois ar draws y wefan yma cyn ymweliad diweddar. Mae’n wych. Mae cylchrawn y cael ei gyhoeddi hefyd sy ar gael mewn caffis, bariau ac orielau. Tips da am fwyd hefyd.
  • visityork.org – gwefan swyddogol y ddinas ar gyfer ymwelwyr (ac un dda ‘fyd). Mae lot o ddigwyddiadau’n cael eu rhestru yma.
  • YorkMix

Cerdded/Beicio/Natur [Gol. a phethau i’r teulu rwan]

  • Afon Ouse/Rowntree Park.  Cerddwch o’r dref hyd at Millenium Bridge, ger Rowntree Park yn Fulford.  Gallwch amrywio hyd y daith drwy ddechrau wrth bont wahanol yn y dref.  Ar y ffordd, stopiwch am hufen ia mewn caffi bach ger mynedfa’r parc sy gyferbyn a Cliffords Tower, a/neu picio mewn i oriel According to McGee sy ychydig ddrysau i ffwrdd.
  • Waliau’r ddinas – Yr unig ran dw i wedi gerdded ydy o Monkbar (diwedd Goodgramgate), gwrth glocwedd hyd at y bont ger yr orsaf dren. Ddim rhy hir a chyfle i fusnesa mewn i erddi taclus ardal breswyl drud tu cefn i’r Minster.
    [Gol. dwi bellach wedi cwblhau’r cyfan bron, ond mae’r uchod cystal darn na dim]
  • Llogi beic, seiclo i Selby ar hyd ‘llwybr y bydysawd‘: “The York Solar System model is a scale model of the Solar System, spread out along 6.4 miles (10km) of the old East Coast mainline railway. Along it you can find scale models of all the planets in our solar system…” 
  • Comin Skipworth
  • Gwarchodfa natur Wheldrake Ings – gwelsom gylfinir a thylluan wen (ganol dydd!) yma
  • York Maze. Mae’n plant ni’n caru fan’ma. Addas i blant at tua 12 oed. Gwerth da am arian. Fatha amuzement park dosbarth canol (er bod pobl o bob math yno!)

[os am argymhellion am lefydd i fynd i gerdded gerllaw-ish, holwch yn y blwch sylwadau]

Cafod y cofnod ei gyhoeddi yn Teithio a'i dagio yn . Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

1 Ymateb i Efrog

  1. Dywedodd Huw :

    Os am ddipyn o fwyd hwyr, yn lle mynd am kebab neu burger mae lle baedd rhost! Andros o syniad da!

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *