Hacio’r Iaith 2012

Bydda i’n mynd ar bererindod i Aberystwyth y penwythnos yma. Mae mynd i Aberystwyth wastad yn braf, ond mae’n well fyth pan mae anghynhadledd blynyddol Hacio’r Iaith ymlaen yno.

Dyma fideo gan Rhodri (y boi sy’n gyfrifol am wneud i’r holl beth ddigwydd) yn rhoi disgrifiad o’r diwrnbod a beth mae o’n edrych ymalen i’w weld a chlywed.

Dyma gofnod gan Bryn sy’n esbonio ychydig am drefn digwyddiad o’r fath.

Llwyddodd Sioned i wireddu breuddwyd oes a chael ei hun ar soffa Wedi 7 gyda John Hardy i drafod y digwyddiad.

Mae manylion llawn y dydd ar wici Hedyn.

Cyhoeddwyd yn blogio, Hacio'r Iaith | Tagiwyd | Rhowch sylw

Dim ond fi, y draffordd a gwasanaeth radio cyhoeddus

Prynhawn ‘ma, ar ôl danfon fy ngwraig a’r peiriant pw-pw at dylwyth yn Warrington, gyrrais yn ôl am adre ar ben fy hun gyda rheolaeth llwyr ar fy nhynged, ac am unwaith, ar ddeial y radio. Ond cyn sôn am yr arlwy y profais ar y radio, hoffwn sôn am arlwy hanfodol ar gyfer taith ar drafforth, sef coffi. Mae rhieni fy ngwraig yn byw jyst tu allan i Efrog, felly rydym yn hen gyfarwydd a gwasanaethau ochr traffordd. Chwarae teg, maen nhw’n gyfleus ofnadwy, ond ar y cyfan, mae nhw’n depressing, di-enaid a drud (er, mae’r rhain yn Cumbria yn edrych yn wahanol).

Pan gyrhaeddais Wasanaethau Stafford a gweld y ciw ANFETH ac araf yr olwg wrth gownter Costa, dyma droi’n ôl i’r car, chwilio am bentref/tref rhwng y ddwy gyffordd nesaf yn yr atlas, a gwglo ‘real ale, Penkridge’ ar fy ffôn, a dilyn fy nhrwyn. Ie, dw i’n gwybod mai chwilio am le i gael coffi o’n i, ond am ryw reswm, dw i’n meddwl bod unrhyw dafarn sy’n gwrthu cwrw deche hefyd yn mynd i wneud coffi hanner call hefyd, er gwyddwn nad yw hyn yn wir pob tro. Roedd canlyniad cyntaf Google wedi awgrymu The Swan yn Whiston, sy’n diwgydd bod yn enillydd teitl tafarn y flwyddyn y gangen CAMRA lleol, ond roedd ychydig bach gormod off-piste, felly mentrais i’r Littleton Arms, sydd ar y prif stryd wrth i chi yrru drwy dref fechan a thwt Penkridge. Mae’n adeilad deniadol, gyda bwydlen neis, a dewis da o gwrw go iawn (gan gynnwys un gan Purity Brewing Co. dw i wedi clywed cymaint amdanynt) ac yn cynnig papur newydd i’w ddarllen a wi-fi am ddim. Yn anffodus, dim ond OK oedd y coffi Americano a’r brownie siocled, er fe lenwodd dwll ac roedd y staff yn hynod gyfeillgar, felly baswn yn bendant yn mynd yn ôl yno (os byddaf byth ar sesh drwy Swydd Stafford wledig yn y dyfodol!).

Yn ôl i’r car i wrando ar y radio. Tydw i ddim yn gwrando ar lawer o radio o gwbl (oni bai mod i’n digwydd bod yn golchi llestri pan mae Radio Shwmae arnodd), nac ychwaith gyda lot o fynedd gyda phêl-droed Uwchgynghrair Lloegr, ond heddiw mi ges i wledd amrywiol iawn, a diolch i’r BBC am hynny. Cyn cyrraedd Penkridge ro’n i wedi dal diwedd y gêm hynod rhwng Man Utd a Man City (gyda Man City yn ennill 6-1, ac oddi cartref, os nad ydych yn dilyn y gamp). Hefyd ro’n i wedi cael fy siomi ar yr ochr orau gan y cerddoriaeth ar raglen Gaynor Davies, a’i gwestai, Lisa Jên, a ddewisiodd gân gan The Black Arm Band o Awstralia, rhyw fath o collective o artisitiad sy’n canu yn ieithoedd brodorol y wlad.

Wedi ailgychwyn y daith, dyma ni fwy o bêl-droedd cyffrous, gyda chanlyniad annisgwyl QPR yn curo Chelsea (eto ar Radi 5 Live). Wedi hynna, newid cywair yn llwyr, drwy wrando ar yr annwyl Hardeep Singh Kohli yn cyflwyno Pick Of The Week ar Radio 4 – lot o stwff difyr yma, a braf oedd y ffordd roedd yn plethu themâu ambell eitem roedd yn adolygu gyda ei fagwraeth ei hun yn Yr Alban. Gorffenais y gloddesta gyda rhaglen gwbl newydd i mi, sef Sesiwn Fach, ble roedd y cyflwynydd Idris Morris yn sgwrsio gyda Danny KilBride (Cadeirydd TRAC Cymru) a Iolo Whelan (o’r grŵp Mabon ymysg eraill). Nid mod i ddim yn lico stwff gwerin, tydy o byth ymath o beth dwi’n mynd i chilio amdano, ond wedyn dw i wastad yn ei fwynhau pan glywaf o, yn enwedig stwff Cymraeg.  Yn rhyfedd ddigon, roedd sgwrs ar y rhaglen yma, ac rhwng Lisa Jên a Gaynor Davie yn gynharach, yn sôn sut mae cerddorion gwerin Cymru yn cael cymaint gwell ymateb a chydnabyddiaeth tu allan i Gymru nac ydyn nhw yng Nghymru. Chwaraewyd gân Llydaweg ar y rhaglen yma gan Alan Stivell ac artist arall.

Ydy hyn yn record i Radio Cymru sgwn i, ble chwaraewyd mwy nag un cân mewn iaith arall (ag eithrio Saesneg!) ar fwy nag un rhaglen ar yr un diwrnod?

 

Cyhoeddwyd yn cyfryngau | Tagiwyd , , , , , | 1 Sylw

Eisteddfod Genedlaethol 2011 drwy lygaid blogwyr

Tra mae’r cyfryngau traddodiadol, megis papurau newydd a radio wedi rhoi llawer o sylw i’r Eisteddfod, mae yna amrwyiaeth da o gofnodion blogiau wedi bod hefyd. Dyma grynodeb:

Gan bod y pedwar Eisteddfod diwetha wedi bod o fewn awr i unai cartref fy rhieni yn y gogledd neu fy nghartref i yn y de, dw i heb dreulio wythnos Eisteddfod o wersylla a mynd allan i’r tafarndai lleol ers 2006. Dyna pam ro’n i’n genfigenus o Leia a sgwennodd gofnodion dyddiol ar Not Since School… o’i hwythnos hi, gan sôn yn fanwl am beth wnaeth ar y Maes ac am wibdeithiau yn yr ardal.

Fel basech yn disgwyl, roedd sawl cofnod ar Plaid Wrecsam, gyda Marc yn cloriannu’r wythnos ac yn cynnig awgrymiadau am wellianau. Mae sylw juicy o dan yr un cofnod gan Nia Lloyd sydd wedi gwneud cais Rhyddid Gwybodaeth:

Wedi bod yn cysidro beth sydd yn digwydd a cyllid yr Eisteddfod ers rhai blynyddoedd rwan, wedi cael ymateb heddiw gan Elfed Roberts, prif weithredwr i gais rhyddid gwybodaeth.

Blog lleol arall ydy Copa’r Mynydd. Cafodd Ro wythnos brysur yn Maes D, yn gweini yn y caffi ac fel bownsar tu cefn i’r llwyfan!

Daeth Jonathan yr holl fordd o Derby ar gyfer yr Eisteddfod. Ar ei flog, Llais Y Derwent, cewch ddarllen am ei wythnos prysur,  gan gynnwys rhoi cyflwyniad am ‘Ddysgu Cymraeg tu allan i Gymru’. Baswn i wedi hoffi clywed y sgwrs yma.

Roedd Neil (Clecs Cligwri) yn rhannu llwyfan gyda Jonathan Simcock yn y cyflwyniad uchod. Mae sawl cofnod am y Steddfod ar ei flog. Dw i’n meddwl bod Neil yn mwynhau’n arw pan mae Eisteddfodau yn dod i’r gogledd ddwyrian, gan ei fod yn gyfleus iddo deithio, ond eleni roedd yn fwy arbennig fyth gan iddo gyrraedd pedwar olaf y gystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn.

Os fetho’ch chi Orsedd y Dreigiau (“wedi ei selio ar y rhaglen deledu Dragons Den“), na phoener, mae adroddiad hir o’r gystadleuaeth ar flog Telesgop. Telesgop hefyd sy’n ennill y wobr am y Deitl Blog Hiraf 2011.

Fel minnau, tydy Elin o flog Melin Wynt ddim wedi bod yn cael cyfle i lawn fwynhau Eisteddfodau diweddar am wahanol resymau, ond mae wedi gwneud yn iawn am hynny eleni. Mae’ nodi ei huchafbwyntia – a’i hisafbwyntiau:

Nos Wener ar y Maes: Gweld llenor o fri yn neud pi-pi tu ol pabell Mantais. Na dim diolch!

Mae ambell gofnod ar flog newydd sbon o’r enw Anwadalwch. Er i Aled fwynhau’r gigs, mae ganddo feirniadaeth am feirniadaeth gobldicwcaidd Donald Evans ar gyfer cystadleuaeth y Goron. Darllenwch y dyfyniad – mae fel petai wedi cael ei sgwennu’n Saesneg gyntaf a’i drosi gan GoogleTranslate!

Draw ar rhysllwyd.com, mae gan Rhys llawer i’w ddweud am ei brofiad Eisteddfodol ei hun, gan gynnwys digwyddiadau Cymdeithas yr Iaith. Ond hefyd mae’n nodi sut mae proffeil oed mynychwyr Maes-B wedi newid a’i bryder am ymddygiad Cymry ifanc (a ddim mor ifanc) pan mae’r ddiod feddwol yn y cwestiwn.

Mae yna round-up campus ar Blog Pethe, ond mae Gwion yn dioddef o PED.

O’r blogiau Saesneg:

Ar Grangetown Jack, mae ambell gofnod gan Ian yn sôn am sut bu i’w deulu fwynhau eu hymweliad cyntaf a’r ardal, ond bod o’n pryderu na elwod yr ardal o ymweliad yr Eisteddfod a’i restr o uchafbwyntiau ac isafbwyntiau.

Mae gan Gareth Hughes sawl llun o’r Lle Celf, ac yn llwyddo cael dig at ‘carachar’ [sic] Cymraeg Caerdydd (that’s his job).

Draw ar flog Wales Music y BBC, mae Adam Walton yn disgrifio ei noson yn DJ’o yn gig nos Sadwrn Maes B ac yn siarad am ei gariad newydd – y band Dau Cefn.

Ar Welsh Icons mae canllawiau ar How to recreate the Eisteddfod in your own home in ten easy steps. Doniol, ond sobor o wir.

Ac i gwblhau’r cylch llosgachol meta-flogio, meta-eisteddfodaidd, draw ar Haciaith.com, mae Rhodri’n rhoi ei farn ar gystadleuaeth blogio yn Eisteddfod eleni ac y flwyddyn nesaf. Mae’n annog pob blogiwr Cymraeg i gymryd rhan.

Dw i’n siwr mod i wedi methu sawl cofnod blog. Rhestrwch neu yn y blychau sylwadau.

Gol. Hefyd ar Haciaith.com, mae Carl wedi postio cynnwys Darlith Goffa Owen gan Euryn Ogwen Willaims o dan y teitl ‘Y Newid Mawr’. Nid yn unig hynny, drwy wyrth y we, mae wedi cloddio a dod o hyd i gynnwys sgwrs/darlith  o 1998 gan Euryn Ogwen ar  pan roedd yr Eistedddfod yn Mhen-y-Bont.   Hoffwn weld mwy o gynnwys tebyg o’r Eisteddfod yn cael ei gofnodi arlein yn dilyn y digwyddiad.

Cyhoeddwyd yn blogio | Tagiwyd , | 1 Sylw

Casglu blogiau Cymraeg (byw neu’n cysgu) – Eich mewnbwn o.g.y.dd.

Ers i’r blog Cymraeg cyntaf ymddangos yn 2004 (neu 2003, neu gynt?), mae nifer o rai eraill wedi dilyn.  Mae rhai yn dal i fynd heddiw, rhai wedi eu gadael (ond yn dal ar gael), ac eraill wedi diflannu’n llwyr (unai dryw ddewis yr awdur neu oherwydd telerau’r cwmni llety).

Mae sawl newid wedi bod. Ar y dechrau, roedd bron pob blogiwr Cymraeg yn roi dolen at bron i bob blog Cymraeg arall. Gydag amser, fe newidioedd hyn, yn rhanol gan bod oes y blogroll wedi dod i ben, ac hefyd gan bod cynifer o flogiau Cymraeg, roedd pobl yn dewis a dethol pa flogiau roeddynt yn ddarllen a pha rai roeddynt yn rhoi dolen atynt. Roedd hyn yn beth i’w groesawu, sef bod pobl yn rhoi dolen yn ôl a blaen i’w gilydd gan bod y blog o ddiddrodeb, ac nid o ddyletswydd.

Fel mae amser wedi mynd yn ei flaen (a gyda chwymp ym mhoblogrwydd cadw blog?), mae’r byd blogio Cymraeg wedi dod yn fwy darniog, ac efallai gyda llai o gyswllt rhwng y blogiau a’r blogwyr.

Dw i wedi manteisio wici Hedyn (rhyw bwll tywod i botsian gyda’r ‘pethe’ Cymraeg ar-lein) i gasglu blogiau Cymraeg. Mae’r casgliad yn cynnys blogiau byw a rhai sydd ddim gyda ni bellach.  Mae sawl peth wedi fy ysgogi, ond yn bennaf i ddangos y fath amrywiaeth sydd ac a fu.

Mae defnyddio wici i wneud hyn yn fy ngalluogi i ddodi’r blogiau mewn gwahanol gategoriau, a dw i wedi dewis y canlynol:

Dyddiad sefydlu – er mwyn gweld os oes trends.

Lleoliad – I weld sut fath po ddosbarthiad sydd (o fewn Cymru a tu allan iddi), ac hefyd falle i weld os byddai’n annog  pobl i drefnu blog-gwrdd lleol os byddant yn sylwedodli bod sawl blogiwr arall gerllaw.

Pwnc – Dau reswm, un i ddangos yr amrwyiaeth, ac yn ail i geisio uno pobl sy’n blogio am yr un pwnc

Platfform cyhoeddi – Eto, oes trend? Dw i’n credu mai Blogger oedd yr un mwy poblogaidd ar un adeg, ond falle bod hyn wedi/yn newid

Cenedl yr awdur – Gender nid nationality. Beth yw’r ratio dynion/merched? Ydy o’n wahanol o’i gymharu a blogwyr ieithoedd eraill? Ydy o wedi newid tros amser?

O ble dw i’n casglu’r blogiau?

Tydi’r rhestr ddim yn gyflawn eto.  Dw i wedi dechrau gyda blogiau sy’n dechrau gyda A a B ac wrthi’n gweithio trwy’r rhestrau ymayma, yma ac yma. Mae’r rhain yn seiliedig ar fy blogroll i, ond mae nifer o hen flogiau ar goll arno ac hefyd sawl un newydd sy wedi ymddangos yn y flwyddyn a hanner diwetha nad ydw i wedi cofio eu dilyn.

Eich help chi.

Gan mai ar ffurf wici mae’r casgliad, gall unrhyw un gofrestru gyda Hedyn a cyfrannu at y casgliad.  Neu os sylwch mod i wedi methu rhwybeth, croeso i chi adael sylw ar y wici neu ym mlwch sylwadau’r cofnod yma os yw’n well gyda chi (er, ar y wici fasai orau).

Hefyd, mae gyda fi gwestiwn neu ddau ynglân a sut i drefnu’r casgliad. Eto, gadewch sylwadau ar y wici neu yn y blwch sylwadau yma.

Parchu preifatrwydd y blogiwr – Yn y meysydd enw, lleoliad a chenedl, dw i’n gadael rhain yn wag os nad yw’n hysbys ar dudalen blaen, neu adran ‘Ynlyn a’ yn blog.  Os ydw i’n gwybod yr ateb i un o’r tri uchod, dach chi’n meddwl bod o’n iawn i wneud chwiliad o fewn y blog rhag ofn bod y wybodaeth yn wedi ei grybwyll mewn cofnod, ac wedyn ei nodi yma? Ydy hyn yn rhy sensitif?

Lleoliad– Os yw’r person wedi symud ers seydlu ei flog/blog, dw i’n eu nodi mewn mwy nag un categori. Dw i’n rhoi mwy nag un lleoliad i lawr os yw’r blogiwr wedi symyud tra’n cadw’r blog. Cymru wedi ei rannu’n siroedd (presenol), tu allan i Cymru wedi ei rannu i wledydd yn unig (falle rhannu UDA yn ôl talaith).

Pwnc – Falle mai hwn ydy’r peth mwya trici a sy’n debygol o fod yn ddadleuol.  Tydy rhai pobl ddim yn licio cael eu categoreiddio ac efallai bydd eraill yn anghytuno gyda diffiniad categori.  Hefyd, ydy hi’n bosib cael gormod o gategoriau? Oes eisiau ail-enwi rhai? Oes rhai ar goll?

Cyhoeddwyd yn blogio | 2 Sylw

Y Teimlad Cenedlaethol: Cymru a’i gyfoeswyr

Yr uchod yw teitl cyfrol mis Hydref 2010 or’ cylchgrawn Y Traethodydd, ac hefyd teitl erthygl oddi mewn iddo gan Lowri Angharad Hughes o Brifysgol Bangor. Y ‘Cymru’ a gyferir ato yw’r cofnodolyn Cymru a lansiwyd yn 1891 gan O. M. Edwards.  Mae’n erthygl diddorol tu hwnt, yn trafod nid yn unig Cymru, ond sawl chyhoeddiad arall Cymraeg, Cymreig a Saesneg a ddaeth i fodolaeth tua’r un adeg, beth oedd yr ysgogaeth tu cefn iddynt ynghyd a chyd-destyn y cyfnod a’r datblygiadau cyffrous ym myd cyhoeddi.

Dw i ddim yn gwybod os ydych yn gyfarwydd a’r gyfres Radio 4 o’r enw The Long View, sy’n dewis pwnc cyfoes ac yn edrych am enghreifftiau o sefyllfaeodd rhyfeddol o debyg yn y gorffenol, ond dyma’r erthygl yma’n gwneud i mi feddwl am sefyllfa’r Gymraeg heddiw a’r cyfleoedd ar gael drwy gyhoeddi ar-lein, er mwyn tynnu pobl a diddordebau tebyg at ei gilydd a gallu lledaenu a thrafod materion o bwys.

Mae’n werth darllen yr erthygl yn llawn (mae copi yn Llyfrgell Caerdydd), ond dw i am godi ambell ddyfyniad ohoni:

Mae’r gwelliant sydd wedi eu dwyn i  mewn i’r gelfyddyd o argraffu, ynghyd a rheilffyrdd, y llythyrdy, y telegraff, a gellill chwanegu haul-luniaeth, oll wedi dyfod i wasanaethu llenyddiaeth. Y wasg ydy gallu gwareiddiol cryfaf yng Nghymru heddyw [sic], yn gystal ag yn y deyrnas yn gyffredinol. Mae y cylchgronnau, papurau a’r llyfrau syd dyn cael eu tywallt o’r wasg Gymreig yn dylanwadu ar fywyd pobl Cymru i raddau anisgwyliadwy.

Mae’r dyfyniad yn tynnu sylw at gelfyddyd, argraffu, pwysigrwydd systemau cyfathrebu a gallu’r wasg i ddylanwadu. Amcan O. M. Edwards oedd sicrhau bod y Cymry ifanc (a hen) a oedd yn cael blas ar ysgrifau gwleidyddol o Loegr hefyd yn gallu darllen rhywbeth tebyg yn Cymraeg ac am Gymru, a thrwy hynny siapio ymwybyddiaeth newydd o Gymru, o fod yn Gymro a hyrwyddo syniadau cenedlaetholgar.

‘The Medium is the message’. Dyma oedd gan Aled Jones i’w ddweud yn ei astudiaeth ei hun:

there was a deliberate edge of hyperactivity of Welsh journalism in this formative period. their producers were evidently persuaded of the view that newspapers and journals were agents as well as symptoms of social change, and the press was overwhelmingly perceived as a medium which performed a structuring, rather than a merely reflecting role in the institutions and activities of public life.

Gwelwyd defnyddiau eraill i’r cyfrwng newydd yma hefyd. Dyma ddyfyniad o Y Diwygiwr yn 1847:

Cymru a’i thrigolion wedi dyfod rywfodd yn wrthrychau sylw cyffredinol. Daw Saeson fel gywbeb dros Glawdd Offa, ar lun Golygddon, Adroddwyr Papurau Newydd, DirprwywyrLlywodraeth, a rhyw fwnw o’r fath: gwelir y gweilch hyn, yn llawnder eu hurddas sywddogol, yn bwrw golwg arnom, yn ffurfio eu barn am danom, ac yn cymryd arnynt ddeall pob peth am ein rhif, ein moesau, ein crefydd, a’n ffasiynau, ac yna heb wybod mwy am danom na’r trwch daear am yr haul, a ddychwelant gan wneud eu storiau, a llunio y chwedlau mwyaf rhyfedd, digirf, a di-sail.

Fel dwedais i, tydy rhai pethau byth yn newid.

Ta waeth, gobeithio bod y blas hyn wedi eich ysgogi i fynd i edrych am Y Traethodydd.  Dw i’n meddwl mai’r prif beth dw i’n drio ddweud o hyn i gyd ydy, yn lle gwastraffu amser ar Facebook (a Twitter), beth am i ni drio ail-afael yn y blogio a trin a thrafod pethau o bwys.

Cyhoeddwyd yn blogio, cyfryngau | 4 Sylw

grüvr (cyfuniad o MySpace, Gmaps ac RSS)

Ydych chi wedi cael llond bol ar y ffaith bod bandiau Cymraeg yn rhy ddiog i hyrwyddo eu gigs ar maes-e a Curiad? Fi hefyd.

Tra’n gwglo am MySpace ffrind i’m gwraig a’i phartner (a gefnogodd Euros Childs mewn gig diweddar yn Efrog), des ar draws gwefan grüvr. O beth dw i’n ddeall (mae’r wefan bach yn anniben a does dim lot o gyfarwyddiadau) mae’n crafu MySpace am dyddiadau gigs. Yna mae’n eu plotio ar googlemap ac yn rhoi’r dewis i chi wneud amryw o bethau fel derbyn hysbysiad ebost/RSS pob tro bydd gig newydd gan fand rydych yn ei ddilyn ac mae hefyd modd chwilio am y tocyn rhataf ar gyfer y gig. Gallwch hefyd fewnosod map ar gyfer band ar eich gwefan neu ar gyfer ardal penodol (e.e. Caernarfon).

Just meddwl baswn i’n rhannu hyn gyda chi. 

Bues i’n sbio am artistiad Cymraeg fel enghreiffftiau, ond mond Mr Huw oedd gyda ychydig o ddyddiadau gigs ar ei MySpace.

Cyhoeddwyd yn Heb Gategori | Tagiwyd , , , | 1 Sylw

Cam cyntaf gyda WordPress

Diolch i Carl am ei amynedd di ddiwedd wrth ddangos i mi, Mal ac Aelwyn sut mae mynd ati i greu blog/gwefan yn defnyddio’r meddalwedd cod-agored WordPress.  Dyma ffrwyth ein noson yn Chapter.  Y gobaith ydy mudo cynnwys Gwenu Dan Fysiau ar Blogger yma, ond yn y cyfamser, dw i am roi cofnod neu ddau yma.

Cyhoeddwyd yn Heb Gategori | Tagiwyd , | 4 Sylw